Monday 24 May 2010

OEDFA I GROESAWU'R FANER!


Dros bythefnos o Clwb Chware Teg! mae'r bobl ifanc wedi bod yn trafod a threfnu gwasanaeth gyda Angharad Roberts i groesawu Baner y Cread i'r capel. Bore dydd Sul 23ain Mai cynhaliwyd oedfa liwgar iawn gyda'r faner fawr yn cael lle blaenllaw ar y wal. Roedd hefyd digon o ddeunydd i wneud baner o groeso, a chafwyd edmygu hon hefyd ar flaen y pulpud. Roedd Chware Teg! wedi cynnwys darlleniadau, emynau, sgets, barddoniaeth, gweddiau a Neges Ewyllys Da pobl ifanc Cymru yn yr oedfa, a chafwyd paned a salad ffrwythau i bawb cyn mynd adre. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!

CWIS A CACEN

Cynhaliwyd Cwis a Cacen difyr iawn yn y festri nos Wener 21ain Mai. Y Cwis-feistres oedd Margaret Wyn Ellis ac roedd ganddi gwis hwyliog iawn gyda'r rhif 5 yn gysylltiedig a'r cwestiwn neu'r ateb! Roedd pedwar tim, ac ar y diwedd roedd y marciau yn agos iawn. Llongyfarchiadau i'r tim buddugol - Mary, Megan, Amy a Sian. Diolch i bawb am gyfrannu at y lluniaeth.

CLWB CHWARE TEG!

Cawsom weld ffilm arbennig iawn heno (13.05.10). Ffilm am Jeremeiah sydd yn byw yn Nairobi yn Kenya. Roedd Jeremeiah yn ein tywys o amgylch yr ardal ble mae'n byw yn Matopeni, sef un o slymiau Nairobi. Cawsom fyd i dy Jeremeiah ac o amgylch y gymuned dlawd hon. Does dim toiledau yma, ac mae'r holl ardal wedi ei hadeiladu o gwmpas ffos carthffosiaeth. Roedd yn ffilm rymus iawn ac aeth y bobl ifanc ati i lunio gweithgaredd arbennig ar gyfer y pentref er mwyn codi arian ar gyfer Cymorth Cristnogol. Edrychwch allan yn fuan am brynhawn o bel-droed!

BORE COFFI CYMORTH CRISTNOGOL

Cynhaliwyd Bore Coffi ychwanegol y mis hwn a'i gynnal yn Yr Hen Ysgol. Cafwyd bore digon difyr a'r casgliad heddiw yn mynd tuag at Cymorth Cristnogol. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Wednesday 12 May 2010

CLWB HWYL A SBRI



Heno, nos fercher 12fed Mai cawsom oedfa arbennig ar Helpu Eraill - mae'r wythnos hon yn wythnos Cymorth Cristnogol. Croesawyd pawb i'r oedfa gan Gwenno a diolchodd Lowri i bawb yn y pentref sydd wedi cefnogi Clwb Hwyl a Sbri mewn unrhyw fodd dros y flwyddyn. Bu i ni gymryd rhan wrth adrodd dameg y Samariad Trugarog cyn cael gweld ffilm fer o fywyd Jeremeiah sydd yn byw mewn slym ar gyrion Nairobi yn Kenya. Tydi bywyd ddim yn hawdd i Jeremeiah oherwydd nad oes toiledau yn ei bentref, ond gyda'n help ni yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol gobeithiwn rhyw ddiwrnod y daw breuddwydion a chynlluniau Jeremeiah yn fyw! Casglwyd £19 ar gyfer Wythos Cymorth Cristnogol. Da iawn chi!

PEDAL - edrych ar ol y beic!




Mis Mai oedd mis edrych ar ol y beic. Cawsom wersi gan Robat a Paul ar sut i ddarganfod twll yn y tiwb, drwy drochi'r tiwb mewn dwr! Fe gawsom hefyd ddysgu sut i wneud yn siwr bod y brecs yn gweithio, bod y gadwyn yn gweithio'n rhwydd a sut i roi gwynt yn y teiars! Ar ol hyn i gyd fe gawsom ddwr cynnes gan Llinos er mwyn golchi'r beics. Gwnaed hyn yn drylwyr iawn, hyd yn oed wrth ddefnyddio hen frwsh dannedd!

Friday 7 May 2010

STATWS MASNACH DEG

Llongyfarchiadau!
Mae Eglwys Maesyneuadd a Gosen wedi derbyn statws ‘eglwys Masnach Deg’. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cyrraedd y tri nod sydd angen i dderbyn y statws hwn, ac rydych yn un o 5300 o eglwysi ar hyd a lled Prydain.
Rydym wedi derbyn y statws oherwydd ein bod yn cynnal gwasanaeth a gweithgareddau i hybu Masnach Deg yn flynyddol ac yn cynnig nwyddau Masnach Deg mewn cyfarfodydd e.e. Clwb Gwau, bore Coffi, Clwb chware Teg! ac yn cynnal stondin gyda nwyddau Masnach Deg ar werth yn rheolaidd.

CLWB HWYL A SBRI




Nos Fercher 5ed Mai cawsom hanes Jeremeiah sydd yn byw ym Matopeni yn Nairobi, Kenya. Mae hanes Jeremeiah yn ymddangos ym mhecyn Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Mae'n byw mewn slym ger Nairobi. Does dim toiledau yno ac mae'n cerdded i'r gymuned nesaf i ddefnyddio'r toiled. Yn y nos mae'n defnyddio bag plastig. Gyda'n cymorth ni yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol mae cymuned Jeremeiah wedi cael bloc cawodydd a toiledau, a tap dwr glan.
Gofynnwyd i'r plant wrth iddyn nhw gyrraedd wneud llun 'ty ni' ac i feddwl tybed sut dai sydd yn Kenya. Dyma waith Ben, Gwenno a Lowri.




CWRS CYMORTH CYNTAF

Cynhaliwyd Cwrs Cymorth Cyntaf cynhwysfawr yn y pentref. Daeth 11 i gael eu hyfforddi gan Ann o Meditec Bangor. Roedd yn gwrs 6 awr dros ddwy noson, ac roedd yn gwrs buddiol iawn. Mae pawb yn derbyn tystysgrif gan Meditec.

CLWB GWAU

Cynhaliwyd y Clwb Gwau mis Mai ar ddydd Mawrth 4ydd oherwydd bod dydd Llun yn Wyl y Banc. Casglwyd nifer fawr o eitemau eto'r mis hwn ar gyfer Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Bryn Beryl. Diolch yn fawr iawn. Mae disgyblion Ysgol yr Eifl wedi dechrau gwau cadach llestri bob un i fynd adre!

Sunday 2 May 2010

CYMORTH CRISTNOGOL

Cynhaliwyd oedfa Wythnos Cymorth Cristnogol ym Maesyneuadd nos Sul 2il Mai 2010. Mae'r adnoddau eleni yn edrych ar safon byw yn slymiau Nairobi yn Kenya. Yno, mae pobl ysbrydoledig wedi mynd ati i geisio gwella safon byw drwy adeiladu bloc cawodydd a thoiledau. Mae 2filiwn o bobl Nairobi yn byw yn y slymiau sydd wedi ei hadeiladu ar ffosydd carffosiaeth agored. Gwnaed casgliad tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol 2010.

CLWB CHWARE TEG!



Mae criw Clwb Chware Teg! hefyd yn cynorthwyo i greu murlun Daniel yn ffau'r llewod ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Denman. Mae'r plant o Clwb Hwyl a Sbri wedi creu 11 o lewod a gwaith y criw hyn oedd paratoi'r cefndir, esgyrn a chreu a dilladu Daniel.

BORE COFFI

Roedd Bore Coffi mis Ebrill yn Neuadd Ysgol yr Eifl a'r thema oedd Anifeiliaid Anwes. Cawsom gyfle i sgwrsio gyda'r plant, gan ddod i wybod cryn dipyn am eu hanifeiliaid anwes - cwn, cathod, mul, cwningod, ieir a moch cwta! Bydd y Bore Coffi nesa dydd Iau 27ain Mai.

CLWB HWYL A SBRI

Stori Daniel yn ffau'r llewod gawsom wythnos yma, a'r rheswm am hyn? Rydym am gystadlu eleni am Gwpan Denman yn Undeb yr Annibynwyr ym mis Gorffennaf. Testun y gystadleuaeth eleni yw creu murlun o unrhyw olygfa o'r Beibl. Byddwn yn creu llun o Daniel yn ffau'r llewod! Mae'n rhaid i'r murlun gael ei greu allan o ddeunydd ailgylchu, felly roedd yna gryn dipyn o lanast yn y festri heno!