Thursday 31 March 2011

CLWB CHWARE TEG!



31 Mawrth 2011 - dyma'r coasters, mae nhw wedi cyrraedd ac yn edrych yn ddeniadol iawn! Dros yr wythnosau nesaf bydd y criw yn paratoi i geisio am wobr arbennig sef Gwobr Amgylcheddol John Muir. Byddwn yn cael ein harwain drwy'r wobr gan Arwel Elias sy'n gweithio i Llwybrau i'r Brig. Heno cawsom gyfle i feddwl am syniadau ar gyfer y wobr. Mae'n golygu ymdrin a phedwar pennawd: DARGANFOD, ARCHWYLIO, GWARCHOD a RHANNU. Bydd gwefan yn cael ei chynllunio yr wythnos nesaf er mwyn cadw dyddiadur o'r prosiect wrth i ni fynd ymlaen. Mae gwobr John Muir yn cefnogi gwarchod bywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol, pentrefol, mynyddig neu arfordirol. Pob hwyl!

BORE COFFI

31 Mawrth 2011 - cynhaliwyd Bore Coffi yn y Festri yng nghwmni dosbarth babanod Ysgol yr Eifl. Cawsom wledd o ganu a llefaru i'n dysgu sut i fod yn saff ar y ffordd. Bod yn saff wrth gerdded neu wrth ddefnyddio beic - dyna oedd neges Carys Ofalus yn dilyn ymweliad y plant i weld sioe arbennig ar y thema, yn ddiweddar. Roedd 22 o blant ieuengaf yr ysgol yn perfformio i Festri llawn dop o rieni, teuluoedd ac aelodau'r cyhoedd. Roedd pawb wedi mwynhau eu cwmni yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen i'w gweld yn fuan eto!

CLWB HWYL A SBRI





30 Mawrth 2011 - cynhaliwyd Noson Coffi i gefnogi apel Cartref Cariadus Mizoram Yr India. Rydym wedi bod yn defnyddio rhannau o'r pecyn sydd wedi ei baratoi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru i godi ymwybyddiaeth am y gwaith yn Hamangaihna In, Mizoram. Tra bod yr oedolion yn mwynhau paened, sgwrs ac edrych ar grefftau o Mizoram, roedd y plant yn lliwio patrymau traddodiadol Indiaidd, gan ddefnyddio lliwiau traddodiadol ardal Mizoram. Wedi cwblhau'r lliwio roedd angen mynd i'r gegin at Def i gael lamineiddio'r llun. Dyma rai o fatiau bwrdd y plant i fynd adre i fwynhau swper lliwgar iawn!

DECHRAU DA!





Wrth barhau gyda thema'r Gwanwyn mae'r plant wedi gwneud llun o wyn a blodau. Roedd hen ddigon o baet ar ol i wneud blodyn i fynd adre i mam ar Sul y Mamau. Mae ardaloedd chwarae newydd wedi cyrraedd hefyd - ardal adeiladu, ardal stori ac ardal y pentref.

Friday 25 March 2011

CLWB CHWARE TEG!

24 Mawrth 2011 - Noson Actio! Mewn llai na awr roedd y criw wedi cael sgript, wedi creu gwisgoedd o'r bocs gwisgo fyny, wedi ymarfer a perfformio drama fer yn adrodd chwedl Esther, a gwneud hynny gyda llawer iawn o chwerthin a hwyl! Bu hefyd gyfle i drafod yr holl adroddiadau diweddar yn y cyfryngau o'r holl wledydd sydd yn profi gwrthdaro ar hyn o bryd. Tybed a oes Esther ddewr arall yn ein mysg a all achub bywydau eto!

CWRS ARWAIN ADDOLIAD

21 Mawrth 2011 - bellach rydym wedi cwblhau'r cwrs ac mae'r criw yn paratoi oedfa arbennig ar gyfer os Sul 29ain Mai.

CLWB CHWARE TEG!

24 Mawrth 2011 - Noson actio. Mae pawb yn hoffi actio a gwisgo fyny! Mewn llai na awr roedden ni wedi cynllunio dillad o'r bocs defnyddiau, ymarfer y sgript a perfformio a gwneud fidio o ddrama chwedl Esther. Gyda'r cyfryngau yn llawn lluniau o wrthdro dros y byd yn ddiweddar tybed a oes Esther arall ddewr all achub mwy o fywydau!

Friday 18 March 2011

CLWB CHWARE TEG!

17 Mawrth 2011 - Parti Masnach Deg gawsom ni heno ac roedd pawb wedi dod a bwyd i'w rannu. Roedd ffynnon siocled a ffrwythau Masnach Deg a hefyd cawsom olwg drwy luniau ar fywyd ffermwyr cocoa yn Ghana.

CLWB HWYL A SBRI



16 Mawrth 2011 - rydym wrthi'n paratoi gwaith celf Indiaidd - baner liwgar yn defnyddio blociau argraffu traddodiadol o'r India. Bydd y faner yn cael ei gosod yn y Festri ar gyfer ein Noson Goffi i godi arian tuag at apel EPC Cartref Cariadus Mizoram. Bydd y Noson Goffi nos Fercher 30ain Mawrth, yn y Festri rhwng 5 a 6 o'r gloch. £1 mynediad. Dyma rai o'r sgwariau fydd yn creu'r faner orffenedig.


DECHRAU DA!


16 Mawrth 2011 - wrth barhau a thema'r Gwanwyn y mis hwn mae'r plant yn barod i osod compost a hadau yn eu potiau. Mae'r potiau yn rhai lliwgar iawn, wedi eu ailgylchu wrth gwrs o botaiu plastic sydd ar gael o ddydd i ddydd yn y cartref.

Monday 14 March 2011

CHWARE TEG!




10 Mawrth 2011 - Croesawyd Kerry o fudiad Cais i'r Clwb heno. Mae Cais yn cynghori grwpiau am effeithiau alcohol a chyffuriau ar y corff ac mewn cymdeithas. Drwy nifer o weithgareddau a chwisiau addysgwyd ni o'r niwed y mae alcohol yn ei achosi yn ein bywydau. Mae'r llun grewyd gan y criw yn dangos yr holl niwed corfforol mewnol, gweledol allanol a chymdeithasol o yfed alcohol.

CLWB HWYL A SBRI





Yn ystod Pythefnos Masnach Deg cawsom gyfle i goginio cacen siocled enfawr! Cawsom hefyd wasanaeth i'r teulu yn edrych ar fywyd ffermwyr cocoa yn Ghana. Dilynwyd yr oedfa gyda gweithgaredd yn llunio posau lliwgar a gweddiau ffa cocoa.

Monday 7 March 2011

GWASANAETH GWYL DEWI


6ed Mawrth 2011 - cynhaliwyd gwasanaeth Gwyl Dewi cartrefol iawn gyda nifer o'r aelodau yn cymryd rhan. Dilynwyd y gwasanaeth gyda tri chawl cennin blasus iawn. Addurnwyd yr addoldy gyda blodau hardd y gwanwyn.

Friday 4 March 2011

CYFARFOD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD



4ydd Mawrth 2011 - cafwyd gwasanaeth hyfryd iawn wedi ei baratoi gan wragedd Chile heddiw. Roedd nifer fawr yn cymryd rhan ac roedd y festri wedi ei addurno'n hyfryd gan gennin pedr yn ein argyhoeddi fod y gwanwyn wedi cyrraedd.

CLWB CHWARE TEG!





2il Mawrth 2011 - creu cynllun ar gyfer cynhyrchu coasters roedden ni heno - dyma galeri o'r lluniau oedd wedi sychu mewn pryd!!!

DECHRAU DA!







2il Mawrth 2011 - heddiw roeddem yn dathlu dydd Gwyl Dewi gan fwynhau cacennau blasus iawn gyda phaned a diod a chael lliwio ein hoff luniau!