Thursday 28 January 2010

CLWB CHWARE TEG!


Yn y clwb yr wythnos yma cawsom weld lluniau o'r difrod yn dilyn daeargryn Haiti. Mae llawer o bobl o wahanol wledydd wedi mynd yno i helpu i chwylio am bobl sydd o dan y rwbel, ac i rannu bwyd a gofal iechyd. Aethom ati wedyn i wneud cardiau i'w gwerthu gyda'r elw yn mynd i apel Cymorth Cristnogol ar gyfer pobl Haiti.

BORE COFFI

Cafwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn yng nghwmni plant Ysgol yr Eifl. Thema eu cyflwyniad oedd adar - cawsom weld lluniau yr adar sydd yn ymweld a gwahanol rannau o Gymru wrth iddyn nhw hedfan yn ol ac ymlaen o Dde Affrica. Cyflwyniad diddorol mewn sgwrs a chan.

Monday 25 January 2010

CLWB CHWARE TEG!





Nos Iau 21ain Ionawr daeth Mirain draw o Mantell Gwynedd i gyflwyno siec i Non am ennill cystadleuaeth. Roedd Non wedi cwblhau holiadur gwirfoddoli yn llwyddiannus! Roedd cyfle hefyd i Mirain gwrdd a Kelly a Miriam, sydd wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn grant o £300 gan Mantell Gwynedd i gynnal gweithgareddau gyda Clwb Hwyl a Sbri yn ystod Hanner Tymor Chwefror 2010. Gweddill y noson fe gawsom sgwrs byr am wirfoddoli a gwireddu syniadau cyn cael gem mawr o snakes and ladders cyn mynd adre!

Monday 18 January 2010

CLWB CHWARE TEG!




Cawsom gwmni Lee Oliver o Cadwch Gymru'n Daclus wythnos yma i ddangos i ni sut i wneud bocs adar. Roedd Lee yn dod a'r holl offer a'r coed ar gyfer gwneud y bocs. Roedd rhaid i ni adeiladu'r bocs. Roedd rhaid defnyddio morthwyl a dril ac fe gawsom lot fawr o hwyl. Dyma ni wrthi'n brysur yn adeiladu bocsys adar.

Tuesday 5 January 2010

PARTI NADOLIG CLWB HWYL A SBRI




Daeth criw da ynghyd i barti Nadolig Clwb Hwyl a Sbri nos Fercher 16 Rhagfyr. Cafwyd gemau, bwyd a sioe ffasiwn - er mwyn arddangos crysau-T Blue Peter i'r rhieni. Roedd cyfle hefyd i'r rhieni gael gweld llyfrau gwaith y plant. Bydd Clwb Hwyl a Sbri yn ail-gychwyn ddiwedd Ionawr.

DYMA EIN STORI DYMA EIN CAN

Gwasanaeth Nadolig cymunedol pentref Trefor. Neuadd orlawn i wrando ar stori'r Nadolig gyda plant Ysgol yr Eifl a Clwb Chware Teg! Cynhaliwyd nos Fercher 9fed Rhagfyr a gwnaed casgliad tuag at elusen Ysgol yr Eifl eleni sef CLIC. Diolch i bawb am gymryd rhan ac i chi am gefnogi.

FFAIR NADOLIG









Trefnwyd Ffair Nadolig ar y cyd gyda Adran yr Urdd a Chlwb Hwyl a Sbri - roedd yna lond y Ganolfan o weithgareddau, a chefnogwyr! Diolch i bawb a ddaeth i helpu ac i gefnogi, mae eich cyfraniad yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i'r ddau Glwb yn y pentre. Roedd stondinau ar y dydd, gweithgareddau i'r plant, arddangosfa coginio gan Jan Wilson-Jones o Rhuthun, paned a sgwrsio yn y caffi, Sion Corn a nifer o gemau.





WYTHNOS GWRTH FWLIO

Dyma oedd thema Gwasanaeth y Mis yn Ysgol yr Eifl 26ain Tachwedd. Cafwyd sgets o stori Esther, a sut bu iddi hi fod yn ddewr iawn, gan ddweud wrth y Brenin beth oedd Haman yn fwriadu ei wneud i ddifa'r Iddewon. Roedd Sion, Owain, Gwenno ac Ifan wedi cyflwyno'r sgets yn y Clwb Hwyl a Sbri hefyd ac wedi cael hwyl dda iawn ar gyflwyno'r stori.