Saturday 31 January 2009

BORE COFFI - SANTES DWYNWEN


Braf iawn oedd gweld nifer wedi dod i Bore Coffi cyntaf 2009! Santes Dwynwen, Nawdd Sant y Cariadon oedd thema'r cyflwyniad hyfryd iawn gawsom gan blant Ysgol yr Eifl. Mae'r Grwp Cefnogi i waith yr eglwysi yn Nhrefor yn croesawu bod Ysgol yr Eifl yn barod i fod yn bresennol ym mhob Bore Coffi, gan gyflwyno themau diddorol yn eu tro. Mae'r Bore Coffi nesaf dydd Iau 5ed Mawrth, yn festri Maesyneuadd rhwng 10 o'r gloch a hanner dydd. Croeso cynnes i bawb.

Monday 5 January 2009

CLWB GWAU IONAWR 09







Blwyddyn Newydd Dda i bawb!
Cafwyd Clwb Gwau er gwaetha'r tywydd rhewllyd yng nghwmni Fred Evans o'r RSVP heddiw. Fe ddaeth draw i'n llongyfarch a'n hannog i fynd 'mlaen a'r gwaith da. Cawsom baned a mins peis wrth ddarllen llythyrau diolch gan Ysbyty GlanClwyd, Ysbyty Gwynedd a Urdd Cyfeillion Ysbyty Gwynedd. Er nad oedd Ysgol yn Nhrefor heddiw, daeth tair o'r merched draw am dro - ac yn y llun gwelir Leah yn prysur wau sgarff, Catrin wedi gwneud pom pom a sgarff Non.