Wednesday 18 December 2013

HWYL A SBRI

15fed Rhagfyr 13 - daeth nifer fawr i'r oedfa Nadolig dan ofal Parchg Angharad Roberts bore dydd Sul.  Roedd nifer dda o'r plant yn cymryd rhan ar ddechrau'r oedfa gan adrodd i ni hanes Waleed, 13eg oed o Balesteina gafodd offer clyw gan feddygon Hawliau Dynol Israel a Palesteina.  Roedd y rhodd yma yn cadarnhau i deulu Waleed bod gobaith am heddwch.  Cafwyd bwyd parti i ddilyn ac fe ddaeth Sion Corn heibio!

CYMDEITHAS YR EIFL

12fed Rhagfyr 13 - llond ystafell o aelodau Cymdeithas yr Eifl yn mwynhau cinio Nadiolig yn y Celf yng Nghaernarfon!

Thursday 12 December 2013

CLWB CHWARE TEG!

11eg Rhagfyr 13 - wedi i ni gadarnhau trefniadau'r daith gerdded cawsom gyfle i gofio Nelson Mandela, ei waith a'i ddatganiadau ar gyfer pobl ifanc, cenhedlaeth ein dyfodol.  Bu i ni gymharu rhain gyda datganiadau a lluniau gan Oxfam a dewis ein hoff rai e.e.
Peidiwch ag ofni bod yn chi eich hun gan fod y gwreiddiol yn llawer mwy gwerthfawr na chopi!
Gyda phob diwrnod newydd mae popeth yn bosibl eto!
Siapiwch eich byd, neu bydd rhywun arall yn gwneud!
Gorffenwyd gyda gem Feiblaidd Sticky Situations.



Sunday 8 December 2013

HWYL A SBRI yr Ysgol Sul

8fed Rhagfyr 13 - bu ymarfer ar gyfer darn dechreuol yr oedfa Nadolig wythnos nesa a chael darfod ein crysau-t. Bydd golygfa ardderchog o grysau-t Nadolig wythnos nesa!  Mae'r plant bach yn lliwio'n daclus iawn a dyma rai o'r lluniau yn dangos darlun o'r stabl ym Methlehem.



Saturday 7 December 2013

CLWB CARTWNS

6ed Rhagfyr 13 - dyma ni wedi cychwyn ar ein dehongliad ni o hanes Y Creu.  Byddwn yn mynd drwy'r sotiau o'r Beibl yn eu tro!  Cawn gyfle i arddangos ein gwaith yn y Flwyddyn Newydd.

CLWB CHWARE TEG!

4ydd Rhagfyr 13 - Sut ydych chi'n dewis eich ffrindiau? Dyma fu'r sylw heno ac fe ddysgom hefyd am y ffordd dewisiodd Iesu ei ffrindiau - pobl gyffredin fel ni oedd y disgyblion.  Doedd Iesu ddim yn dewis neb a sgiliau arbennig, doedd dim rhaid bod yn enwog nac y person gorau.  Mae'n caru pawb.  Dyma'n murlun ffrindiau ac ar y pysgod mae gweddiau i ddiolch am ein ffrindiau.

Sunday 1 December 2013

OEDFA DYDD RHYNGWLADOL AIDS

1af Rhagfyr 2013 - cyfle i gofio heddiw am y rhai sydd yn byw gyda HIV mewn cymunedau dros y byd.  Yn yr oedfa mae cyfle i weddio, a chlywed hanes rhai o'r bobl ddewr hyn sydd yn byw mewn cymdeithas rhagfarnllyd yn eu herbyn.  Mae gan Gymru ystadegau uchel mewn achosion o HIV ac mae'r casgliad heno o £25.00 yn mynd i Body Positive.  Mae gan Body Positive ganolfannau cymorth dros Brydain yn cynnwys Gogledd Cymru.

CLWB HWYL A SBRI

1af Rhagfyr 2013 - cawsom gyfle heddiw i ddechrau addurno ein crysau-T ac i gael stori'r geni ar ffurf pass the parcel. Caio oedd yn ffodus i agor y parsel ola a chael bar o siocled!  Mae'r crysau-T yn edrych yn smart iawn a cewch weld y plant yn eu gwisgo bore Sul 15fed Rhagfyr pan fydda nhw'n cael Oedfa Nadolig a pharti bach i ddilyn!





CLWB CHWARE TEG!

27ain Tachwedd 2013 heno cawsom wybod am bedwar o fobl ifanc sydd yn wynebu cyfnodau hir mewn carchardai yn Cambodia, Ethiopia a Tunisia, neu sydd yn byw mewn ofn mewn pentref gwledig yn Brasil.  A hynny oherwydd iddyn nhw sefyll dros hawliau pawb arall yn eu cymunedau, a phrotestio'n heddychlon yn erbyn eu llywodraethau.  Mae'r wybodaeth i gyd ar gael ar ein cyfer gan Amnest Rhyngwladol gyda syniadau ar gyfer anfon lluniau a negeseuon iddyn nhw gan bobl ifanc fel ni i'w ysbrydoli, i godi eu calonnau ac i ddweud ein bod yn gweddio drostyn nhw.  Dyma waith Clwb Chware Teg! fydd yn cael ei anfon i Amnest Rhyngwladol y Nadolig hwn.

Sunday 24 November 2013

HWYL A SBRI

24ain Tachwedd 2013 - daeth criw da ynghyd heddiw ar gyfer ein sesiwn cyntaf o waith yn arwain at ein gwasanaeth Nadolig.  Cawsom gyfle i gwrdd a Waleed sydd yn byw ym Mhalesteina.  Roedd Waleed yn fyddar cyn iddo gael offer clyw arbennig.  Mae wedi cael offer clyw gan bartneriaid Cymorth Cristnogol sydd yn Isreiliaid ac yn Balesteiniaid, ac mae Waleed bellach yn deall nad dim ond milwyr sydd gan Israel, ond pobl sydd fel fo gyda'r GOBAITH un diwrnod o weld HEDDWCH a LLAWENYDD yn ei wlad. Dangosodd Duw ei GARIAD i'r byd trwy eni Iesu Grist. Be fyddech chi yn roi ym mhob bocs?


Tuesday 19 November 2013

OPERATION CHRISTMAS CHILD

16eg Tachwedd 2013 - er bod llai o focsys anrhegion na'r arfer, fe ddaeth y fan i'w casglu'n ddiolchgar, fel yr arfer.  Diolch i bawb am gyfrannu tuag at wneud Nadolig plentyn bach mewn gwlad anodd yn un mwy llawen.

Wednesday 13 November 2013

CLWB CHWARE TEG!

13eg Tachwedd 2013 - croesawyd pawb i Glwb cynta'r tymor a braf oedd gweld wyth wedi troi allan ar noson oer a gwlyb!  Meddwl am syniadau ar gyfer llenwi'r rhaglen bur' criw.  Hefyd meddwl a ffyrdd gwreiddiol o godi arian ar gyfer Apel y Pilipinas.  Penderfynnwyd gwneud taith gerdded o Drefor i Clynnog Fawr yn ein pyjamas!!! Bu'r criw hefyd yn llunio lluniau cyfarch i anfon at Garcharorion Cydwybod dethol o restr Amnest Rhyngwladol eleni.  Byddwn yn cyflwyno'r lluniau yn yr oedfa Garcharorion nos Sul 17 Tachwedd.




HWYL A SBRI

10fed Tachwedd 2013 - ar ol tymor o waith beth well na trip.  Dyma ni ar y Trip Ysgol Sul yn cael hwyl yn Glasfryn.  Cawsom Fowlio Deg, chwarae yn yr ardal feddal a wedyn cael cinio.  Bydd Clwb Hwyl a Sbri yn ailddechrau dydd Sul 24ain Tachwedd pan fyddwn yn dechrau ar waith ar gyfer yr Oedfa Nadolig.

Sunday 3 November 2013

HWYL A SBRI

3ydd Tachwedd 2013 - heddiw wedi i ni ymarfer dros bedair wythnos cynhaliwyd ein Oedfa Deulu ar y thema pysgod.  Roeddem wedi astudio stori Iesu yn galw ei ddisgyblion cyntaf dros y bedair wythnos diwethaf.  Roedd y capel yn llawn iawn a pawb wedi mwynhau ein canu ein drama a'n gwasanaeth.  Cyn i pawb fynd adre cafwyd paned a chacen a chyfle i'r plant liwio llun o'r stori.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr ar gyfer trip Ysgol Sul dydd Sul nesa i Glasfryn i fowlio deg a chael cinio. Diolch i'r holl deuluoedd am y cacennau blasus!

Sunday 13 October 2013

HWYL A SBRI

13eg Hydref 2013 - mae'n pysgod bron yn barod. Fe fydd dwy adnod arnynt "gwthia'r cwch allan i'r dwr dwfn a gollynga'r rhwydi am ddalfa dda" a "dilynwch fi, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion".  Heddiw roeddem yn edrych ar y ffordd mae Iesu Grist yn ein dysgu sut i fyw, ac yn ysgrifennu ein gweddiau pysgod.  Cawsom fishfingers a bara pita cyn mynd adre.

Monday 7 October 2013

HWYL A SBRI Ysgol Sul

6ed Hydref 2013 - parhau gyda'n hanes am Iesu yn dewis y pysgotwyr fel disgyblion.  Cawsomn ymarfer ar gyfer yr oedfa deulu cyn creu pysgod mawr!


Monday 30 September 2013

HWYL A SBRI

29 Medi 2013
Rydym yn edrych ar hanes yr Iesu yn dewis ei ddisgyblion cyntaf dros yr wythnosau nesaf, hanes Iesu yn galw Seimon ac Andreas y pysgotwyr.  "Dilynwch fi" meddai'r Iesu.  Wedi gwasanaeth byr cawsom gyfle i ddysgu emyn ar gyfer yr Oedfa Deulu ar 3ydd Tachwedd ac i liwio llun o'r hanes a hefyd gwneud nod llyfr.



DECHRAU DA!

18 Medi 2013
Cawsom lawer o hwyl yn paentio pysgodyn yn Dechrau Da! plant, mamau a neiniau ar y llawr yng nghanol y paent!

Wednesday 17 July 2013

CLWB GWAU

15fed Gorffennaf 2013 - dyma ddiwrnod braf i fynd am ein te blynyddol a mwynhau ein hunain unwaith eto yn Taro Deg.  Bydd y Clwb Gwau yn ail ddechrau ym mis Medi felly mwynhewch eich seibiant dros yr haf.

Sunday 14 July 2013

HWYL A SBRI

15 Gorffennaf 2013 - cawsom wneud gwahanol weithgareddau bore heddiw i gefnogi pump elusen.  Mae teulu un o'r plant yn gwneud taith feics noddedig, felly dyma'n cyfle ni i gefnogi hefyd.  Llyfrau oedd thema'r bore a cawsom hanes Mari Jones a'i Beibl.  Hefyd daeth Angharad a gwahanol Feiblau mewn ieithoedd eraill i ni weld - Ffrangeg, Sbaeneg, Groeg, Indiaidd a Hebraeg.  Rhwng gweithgareddau roedd cartwns Tom a Jerry ac roedd pawb wedi dod a bocs bwyd i ginio.  Ar ol cinio cawsom greu Elfed yr eliffant allan o hen botel laeth.  Cyn mynd adre roedd digon o amser i lunio bag cymorth ar gyfer uned Cymorth Cristnogol yn yr Eisteddfod - bagiau llawn bwyd, pobl i helpu, peli, gwartheg, gwydd ac ati.  Diolch i bawb am gefnogi fe welwn ni chi gyd ym mis Medi.





Friday 5 July 2013

BORE COFFI

4ydd Gorffennaf 2013 - cafwyd Bore Coffi diddorol a dymunol iawn yng nghwmni disgyblion yr ysgol heddiw.  Roedd y gynulleidfa wrth eu bodd gyda chyflwyniad y plant ar wahaniaethau rhwng pentref Trefor a thre Caernarfon.  Braf oedd cael gwrando ar fedli o ganeuon traddodiadol yn ymwneud a glan mor a hwylio!
Da iawn chi.  Rhoed gair i'r plant gan Angharad Roberts wrth i ni ffarwelio gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn y Bore Coffi cymunedol.

CLWB GWAU

1af Gorffennaf 2013 - cynhaliwyd y Clwb Gwau olaf cyn ein seibiant dros yr haf.  Croesawyd disgyblion Blwyddyn 6 atom er mwyn cal dymunno'n dda iddyn nhw yn Ysgol Glan y Mor ym mis Medi.  Bydd ein cyfarfod nesaf prynhawn dydd Llun 15fed Gorffennaf pan gawn de prynhawn yn Taro Deg.  Cysyllwch a Llinos os hoffech ymuno gyda ni.

Friday 21 June 2013

CLWB CHWARE TEG!

21ain Mehefin 2013 - Natalie, Gwenno, Elliw a Michaela gyflwynodd gartwn o stori Maesyneuadd i ddisgyblion Ysgol yr Eifl heddiw.  Roeddent yn hyderus iawn ac wedi mwynhau fel cyn-ddisgyblion, cael ymweld a Ysgol yr Eifl eto.  Eglurwyd sut aethon nhw ati i drefnu'r Digwyddiad, pa syniadau fabwysiadwyd o'r rhestr faith a beth yw'r cynlluniau dros yr haf i dacluso gardd y capel.  Roedd y plant wedi mwynhau yn fawr gweld y cartwn o'r stori ac yn gwerthfawrogi cael Beibl bob un i fynd adref.  Llongyfarchiadau mawr i chi ferched am eich gwaith caled.

CLWB CHWARE TEG!

20fed Mehefin 2013 - cyfle heno i ymarfer ein cyflwyniad ar gyfer disgyblion Ysgol yr Eifl bore fory.  Mae'n stori am hanes dechrau addoli yn Nhrefor yn barod, gyda'r lluniau i adrodd stori Sidney Roberts.  Mae pob Beibl wedi ei baratoi gyda enw'r plentyn a gair i egluro ei fod yn rhodd i ddathlu penblwydd Maesyneuadd yn 200 oed!

Thursday 20 June 2013

PERERINDOD 2013

Eleni mae Dawi Griffiths am ein tywys drwy leoliadau o ddiddordeb yn ardal Harlech.  Byddwn yn mynd o Drefor dydd Sadwrn 29ain Mehefin 2013 a chaniatau y cawn ni dywydd braf!  Os hoffech ymuno gyda ni yna cysylltwch a Llinos.  Y gobaith yw cael ymweld a'r Las Ynys, Eglwys Llandanwg a Llanfihangel-y- traethau cyn cael swper yn Porthmadog ar y ffordd adre.



Wednesday 19 June 2013

DECHRAU DA!

19eg Mehefin 2013 - gobeithio y cawn ni gyfarfod ar y traeth dros yr wythnosau nesa, ond am heddiw cawsom de bach gyda'n gilydd yn y festri.  Dyma lun cath Elis.

Saturday 15 June 2013

CLWB CHWARE TEG!

15fed Mehefin 2013 - mewn ymateb i gais y bobl ifanc trefnwyd i godi ysbwriel ar y traeth heddiw gyda barbaciw i ginio.  Bu'r criw yn weithgar iawn a chodi chwech bag bin o lanast.  Daethpwyd o hyd i'r pethau mwyaf rhyfedd ar y traeth fel handlen drws car; hanner het; ac un hosan!  Cafwyd bore bach braf iawn ar y traeth a diolch i bawb am gefnogi, ac am y barbaciw blasus!