Wednesday 14 December 2011

HWYL A SBRI


14eg Rhagfyr 2011 - noson Nadolig! cawsom fwyd parti, pasio'r parsel a gweld pwy allai wneud yr addurn hiraf ar gyfer y cartref! Cyflwynwyd llyfrau - Storiau'r Beibl i bawb. Bydd Clwb Hwyl a Sbri yn ail-ddechrau ddiwedd mis Ionawr. Nadolig Llawen i chi gyd!

DECHRAU DA!

14eg Rhagfyr 2011 - Nadolig Llawen i bawb! Rhoddwyd Beibl bach i bob teulu yn Dechrau Da! heddiw yn rhodd arbennig. Byddwn yn ail-ddechrau Dechrau Da! ym mis Ionawr 2012.

Monday 5 December 2011

CLWB GWAU


05 Rhagfyr 2011 - aeth mis arall heibio gyda'r gwau yn parhau! Mae hetiau'r plant yn dod yn eu blaen yn barod at y gaeaf. Mae hefyd llwyth o wlad wedi ein cyrraedd yn dilyn cais llwyddiannus am grant gan y Times!

Oedfa - Diwrnod AIDS y Byd


04 Rhagfyr 2011 - cynhaliwyd oedfa yn arbennig i gofio Diwrnod AIDS y Byd - diwrnod i godi arian, i godi ymwybyddiaeth ac i gofio bod HIV ac AIDS yn parhau i fodoli dros y byd. Dyma lun o Rogers sydd yn byw yn Kenya. Mae Rogers yn ymweld a chleifion ar ei feic modur, sydd yn byw gryn bellter o'r clinic agosaf, a thrwy hynny yn sicrhau bod cyfle iddynt dderbyn meddygyniaeth a hefyd gael cyfle i drafod eu cyflwr. Gwnaed casgliad tuag at prosiectau yn ymwneud a HIV ac AIDS.

Thursday 1 December 2011

CLWB CHWARE TEG!




1af Rhagfyr 2011 - taniwch y popty - bydd pob aelod o'r Clwb yn dod adre heno gyda chacen Nadolig yn barod i'w choginio. Ymhen pythefnos bydd cyfle i ddod ar gacen yn ol i'w haddurno!

BORE COFFI

1af Rhagfyr 2011 - cynhaliwyd Bore Coffi'r pentref yn Neuadd Ysgol yr Eifl heddiw gyda'r plant yn trafod eu gwaith gyda'r gynulleidfa. Roedden nhw wedi bod yn ymchwilio i agweddau gwahanol ar y Nadolig e.e. arferion anfon cardiau ac anrhegion, addurno'n tai a bwyd. Cawsom fore diddorol iawn a phob un o'r disgyblion wedi cyfrannu at y cyflwyniadau.

HWYL A SBRI






30ain Tachwedd 2011 - criw bach oeddem ni heno oherwydd y streic, ond fe gafodd y plant ddigon o amser i wneud cardiau Nadolig hyfryd.

DECHRAU DA!


30ain Tachwedd 2011 - braf oedd gweld 10 o blant bach yn Dechrau Da! heddiw a roedd cyfle i wneud cardiau Nadolig a hefyd addurno'r goeden gyda addurniadau clai.