Friday 25 November 2011

CLWB CHWARE TEG!




24ain Tachwedd 2011 - parhau gyda thema'r Nadolig. Mae'r lluniau yn barod ar gyfer ein Noson Garolau a bu pawb yn brysur yn gwneud addurniadau Nadolig. Wythnos nesa byddwn yn gwneud Cacen Nadolig!

HWYL A SBRI





23ain Tachwedd 2011 - bu'r plant bach yn parhau i baratoi y cymeriadau ar gyfer murlun Y Geni gan ychwanegu heno, luniau lliwgar o blant a phobl yn canu carolau i roi o amgylch y murlun. Bydd i'w weld yn y Noson Garolau a gynhelir nos Iau 22ain Rhagfyr am 7 o'r gloch yn y Festri.
Bu'r criw hyn yn datrys y cod i lunio'r frawddeg RHANNWCH LAWENYDD Y NADOLIG HWN ac ysgrifennu gweddi mewn seren. I gwblhau'r noson roedd cyfle i wneud addurn Nadolig drwy addurno ac ailgylch hen CDs!

DECHRAU DA!


23ain Tachwedd 2011 - dyma'r sesiwn olaf ar Y Gofod ac addurno roced oedd gweithgaredd heddiw.

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

21ain Tachwedd 2011 - mae'r grwp yn brysur drefnu oedfa gelli'r ei defnyddio ym mis Chwefror. Mae'r grwp hefyd am gynnal dwy oedfa yn ystod mis Ionawr 2012.

Saturday 19 November 2011

CARDIAU NADOLIG


19 Tachwedd 2011 - mae cardiau Nadolig ar werth er budd Cyngor Ysgolion Sul. Mae llawer o ddewis. 8 cerdyn ym mhob pecyn am £2.00. Cysylltwch a Llinos.

OPERATION CHRISTMAS CHILD


19 Tachwedd 2011 - diolch i bawb am bob cyfraniad tuag at Operation Christmas Child - aeth 49 bocs o Drefor eleni.

CLWB CHWARE TEG!



17 Tachwedd 2011 - roedd criw da yn bresennol a parhawyd i greu ein darluniau ar gyfer cyflwyniad Noson Garolau Pentref Trefor - mae'n dod at ei gilydd yn dda, ac fe fydd yn lliwgar iawn!

CLWB CHWARE TEG!

17 Tachwedd 2011 - roedd criw da yn bresennol a parhawyd i greu ein darluniau ar gyfer cyflwyniad Noson Garolau Pentref Trefor - mae'n dod at ei gilydd yn dda, ac fe fydd yn lliwgar iawn!

CLWB HWYL A SBRI


16 Tachwedd 2011 - yn y Clwb Hwyl a Sbri hyn cafwyd cyfle i edrych ar stori'r Nadolig a hefyd i ddechrau gwneud addurn i'w roi ar y goeden Nadolig.

CLWB HWYL A SBRI



16 Tachwedd 2011 - ychwanegwyd lluniau at ein Seren Stori heno - Seren Stori'r Nadolig. Yn dilyn y cwis aethpwyd ati i liwio cymeriadau ar gyfer ein llun o'r stori Nadolig, yn barod ar gyfer Noson Garolau Trefor.

DECHRAU DA!


16 Tachwedd 2011 - addurno bisgedi oedd gweithgaredd heddiw, a bisgedi siap ser i gydfynd a'n thema - Y Gofod.

Monday 14 November 2011

Criw IACH!


11eg Tachwedd 2011 - heddiw bu Non Leah a Lois yn cynnal gweithdy i'w cyfoedion yn Ysgol yr Eifl (Blwyddyn 9 i Blwyddyn 5a6). Alcohol oedd thema'r gweithdy, ar gyfer cynllun Ysgol Iach. Roedd yn fore buddiol iawn a'r merched yn cael canmoliaeth uchel iawn am eu gwaith. Rhannwyd poster i bob plentyn, yn cynnwys y gerdd luniwyd gyda Myrddin ap Dafydd.

CLWB CHWARE TEG!






10fed Tachwedd 2011 - mae'r paratoadau wedi dechrau ar gyfer gwneud cyflwyniad Nadolig ar gyfer Noson Garolau pentref Trefor. Dechreuwyd gyda'r cefnidiroedd heno - noson serog, strydoedd Bethlehem, caeau'r Bugeiliaid, taith y Doethion a'r Stabl.

Wednesday 9 November 2011

CLWB HWYL A SBRI


9fed Tachwedd 2011 = cafodd y plant iau gwis - cwis ar stori'r Geni. Roedd wyth amlen wedi eu cuddio o gwmpas yr ystafell ac ym mhob amlen roedd ateb i gwestiwn. Wedi cael y cwestiwn roedd rhaid defnyddio'r llythrennau yn yr amlen i sillafu'r ateb! Da iawn chi am gael pob cwestiwn yn iawn. Cam cyntaf creu llun Y Geni heno oedd creu'r awyr, gyda papur du, paent a siapau ser.

Bu'r criw hyn yn trafod adnod o 1 Corinthiaid 10:31 Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall, dylech chi blesio Duw. Roedd cyfle wedyn i drafod yr adnod cyn mynd ati i gynllunio poster ar gyfer Noson Garolau Pentref Trefor fydd yn cael ei chynnal ar nos Iau 15fed Rhagfyr!

DECHRAU DA!


9fed Tachwedd 2011 - parhau gyda thema'r gofod ac roedd cael clai newydd a siap ser yn ychwanegu'n fawr at yr hwyl heddiw! Gwnaeth pawb fathodyn enw siap seren liwgar iawn.

CRIW IACH!

8fed Tachwedd 2011 - daeth y criw ynghyd heno i weithio ar gerdd gyda Myrddin ap Dafydd. Bydd y gerdd yn ymddangos mewn poster fydd yn cael ei gyflwyno i bob plentyn yn y gweithdy yn Ysgol yr Eifl bore dydd Gwener 11eg Tachwedd. Dyma'r gerdd:

SBECTOL ALCOHOL
Drwy sbectol alcohol
mae'r goriad yn fawr
ac mae'r drws yn fach.

Drwy sbectol alcohol
mae'r coesau fel jeli
a'r palmant fel bwrdd llong.

Drwy sbectol alcohol
mae tynnu coes yn troi'n air croes,
mae heulwen yn troi'n dywyllwch.

Gweld colli'r cof,
Gweld geni problemau,
Gweld corff yn crino,
Gweld y byd yn troi'n chwithig,
Gweld drysau'n cau,
Gweld calon yn torri
yw gweld y byd drwy sbectol alcohol.

CLWB GWAU



7fed Tachwedd 2011 - Braf oedd gweld nifer fawr wedi dod i'r Clwb Gwau a diolch am bob eitem o wau fydd yn mynd i Ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd. Mae'r plant wedi dod atom o Blwyddyn 6 Ysgol yr Eifl ac yn dysgu gwau ac yn gwneud het ar gyfer y gaeaf allan o fleece. Gyda ychydig o arian wedi cynilo yn y coffrau fe brynwyd gwlan - ac fe gafodd bawb ddwy bellen wlan i fynd adre!

Sunday 6 November 2011

Criw IACH!





02 Tachwedd 2011 - ymhen wythnos bydd y Criw IACH! yn cynnal gweithdy ar alcohol yn Ysgol yr Eifl i ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6. I'w cynorthwyo mae CAIS wedi rhoi gwybodaeth iddyn nhw i greu cwis a chyflwyno ffeithiau. Mae gweithgareddau hwyliog eraill hefyd yn rhan o'r gweithdy. I gwblhau'r bore yn yr Ysgol bydd pob plentyn yn cael salad ffrwythau ffres a pecyn i'w gadw, yn cynnwys gwaith celf bydd y criw wedi greu gyda Myrddin ap Dafydd. Dyma rai o'r posteri yn barod ar gyfer gweithdy gyda Myrddin ap Dafydd wythnos nesa.

CLWB HWYL A SBRI





02 Tachwedd 2011 - cynhaliwyd Oedfa Deulu am 6.30 gan arddangos gwaith y plant, a hefyd premier cartwn y plant hyn ar ddameg Y Samariad Trugarog. Daeth nifer fawr i'r oedfa a mwynhawyd cymdeithas fyrlymus i ddilyn gyda phaned a gweithgareddau i'r plant.

CLWB HWYL A SBRI





02 Tachwedd 2011 - cynhaliwyd Oedfa Deulu am 6.30 gan arddangos gwaith y plant, a hefyd premier cartwn y plant hyn ar ddameg Y Samariad Trugarog. Daeth nifer fawr i'r oedfa a mwynhawyd cymdeithas fyrlymus i ddilyn gyda phaned a gweithgareddau i'r plant.

DECHRAU DA!


02 Tachwedd 2011 - Y Gofod yw thema mis Tachwedd, ac mae'r plant wedi bod yn brysur yn creu llun o'r gofod wrth argraffu.

DECHRAU DA!

02 Tachwedd 2011 - Y gofod yw thema mis Tachwedd, ac mae'r plant wedi bod yn brysur yn creu llun o'r gofod wrth argraffu.