Saturday 31 March 2012

GWYL PIN DWR PASG






31ain Mawrth 2012 - dym drydedd Gwyl Pin Dwr ac roedd thema'r Pasg yn un pwysig iawn heddiw gan ein bod ar drothwy'r Wyl. Cafwyd anerchiad amserol iawn i'r plant ac i'r oedolion gan Y Parch John Pritchard Llanberis. I ddilyn roedd gan Tess weithgaredd celf lliwgar a chyffrous iawn i'r plant ac ar ol creu llun o'r cei a'r traeth yn nhrefor roedd cyfle i bawb gael gweld arddangosfa goginio. Elwen Roberts oedd in gwraig wadd. Mae'n adnabyddus o raglenni Wedi3 a Prynhawn Da ac yn gweithio i Hybu Cig Cymru. Dangosodd i ni sut i addurno wyau siocled ar gyfer y Pasg. Dangosodd hefyd sut i wneud cwningod, cywion a pharseli Pasg. Cawsom hanner awr o gemau pel ar y cae pel droed cyn rhoi John Pritchard yn y gol a cheisio am sgor! Da iawn chi blant, fe aeth ambell bel drwy ddwylo'r golgeidwad!! Roedd digon o fwyd i bawb, pawb wedi mwynhau a'r bore wedi bod yn llwyddiannus iawn. Un o'r danteithion ar y fwydlen oedd cyfle i flasu Swper y Pasg.

No comments: