Friday 30 May 2008

NEGES EWYLLYS DA POBL IFANC CYMRU 2008






Nos Lun 19eg Mai cynhaliwyd gwasanaeth Neges Ewyllys Da yn Festri Mes y Neuadd. Roedd y festri yn llawn o bobl ifanc yn cymryd rhan, a chynulleidfa niferus wedi dod i gefnogi'r bobl ifanc.

Thema Neges Ewyllys Da 2008 yw Newid Hinsawdd - roedd y neges yn ein hannog i newid ein ffyrdd er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer ein plant. Roedd hefyd yn ein atgoffa o'n cyfrifoldeb dros ein gilydd a dros yr amgylchfyd. Cawsom wasanaeth buddiol iawn gyda eitemau, darlleniadau, ambell ddeialog hwyliog a chanu cynulleidfaol. Hefyd yn ystod y gwasanaeth rhoddwyd taflen i bawb fynd adre - taflen wedi ei pharatoi gan Clwb Chware Teg yn awgrymu deg o syniadau ar gyfer cyfrannu at leihau gollyngiadau carbon di-angen, yn eich cartref. Yn cymryd rhan eleni yn y gwasanaeth roedd Clwb yr Urdd Ysgol yr Eifl, Clwb Chware Teg Trefor ac Aelwyd Gwrtheyrn. Gwnaed casgliad yn ystod y gwasanaeth a fydd yn mynd i brynu pump o 'becynnau argyfwng' allan o gatalog Present Aid - Cymorth Cristnogol.

No comments: