Sunday 18 May 2008

ARWERTHIANT AIL-GYLCHU


Roedd Festri Maes y Neuadd yn lliwgar iawn dydd Gwener ac yn llawn o nwyddau fel newydd i'w hail-gylchu ymysg ein gilydd. Mae'n benwythnos ail-gylchu gyda ni y penwythnos hwn gan y bydd Gwasanaeth Neges Ewyllys Da nos Lun 19 hefyd yn canolbwyntio ar y pethau bach fedrwn ni gyd eu gwneud i arbed gollyngiadau carbon di-angen i'r amgylchfyd, a lleihau'r niwed i'r hinsawdd bregus. Diolch i bawb am gyfrannu ac am gefnogi. Fe gawsom gwmni Lynda Kerley o Gymorth Cristnogol yn y prynhawn. Mae Lynda yn gweithio i Gymorth Cristnogol yn Sierra Leone. Aeth Lynda draw i ddweud helo wrth blant yr Ysgol ac i ddiolch iddyn nhw yn arbennig am eu gwaith da yn cefnogi prosiectau dwr glan ym Mheriw. Mae Clwb Hwyl a Sbri wedi codi digon o arian i brynu pin dwr i bentref ym Mheriw! Cafodd Lynda gwestiynnau da a chan gan y plant! Roedd cyfraniadau'r arwerthiant ail-gylchu yn mynd tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol a chasgliad Trefor - a diolch yn fawr iawn i chi gyd am gyfrannu - fe lwyddwyd i godi £113.

No comments: