Thursday 30 March 2017

12fed Mawrth 2017

Cyfle heddiw i edrych ar boster or Pilipinas ddefnyddiwyd yng Ngwasanaeth Gweddi Byd-eang y Chwiorydd.  Mae'n dangos y gwrthgyferbyniadau sydd yn y wlad.  Tlawd a chyfoethog, llygredd ac ardaloedd hardd. Prinder bwyd a bwyd iach.  Cafwyd sylwadau arbennig am y llun gan y plant. Aethom ymlaen wedyn i edrych ar Apel Cymorth Cristnogol y Presbyteriadi sef Corwynt Cariad sydd yn ffocysu ar waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Y Pilipinas.  Mae ail-gylchu yn broses dyddiol yno gyda pob darn o'ch cartref y tu allan yn gyfle i

dyfu rhywbeth...llysiau'r bara, brenhinllys, mintis, letus, tomatos....oherwydd bod cartrefi'r bobl mor agos at eu gilydd yn y slymiau, does dim lle i ardd.  Dyma boteli diod wedi ail-gylchu a hadau blodau haul ynddynt yn barod ar gyfer Sul y Mamau!!

No comments: