Sul y Mamau
Dyma'n blodau haul yn barod fel anrhegion.
Cawsom hefyd stori gan Sian - hanes Iesu Grist yn gwella'r dyn dall.
Thursday, 30 March 2017
12fed Mawrth 2017
Cyfle heddiw i edrych ar boster or Pilipinas ddefnyddiwyd yng Ngwasanaeth Gweddi Byd-eang y Chwiorydd. Mae'n dangos y gwrthgyferbyniadau sydd yn y wlad. Tlawd a chyfoethog, llygredd ac ardaloedd hardd. Prinder bwyd a bwyd iach. Cafwyd sylwadau arbennig am y llun gan y plant. Aethom ymlaen wedyn i edrych ar Apel Cymorth Cristnogol y Presbyteriadi sef Corwynt Cariad sydd yn ffocysu ar waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Y Pilipinas. Mae ail-gylchu yn broses dyddiol yno gyda pob darn o'ch cartref y tu allan yn gyfle i
dyfu rhywbeth...llysiau'r bara, brenhinllys, mintis, letus, tomatos....oherwydd bod cartrefi'r bobl mor agos at eu gilydd yn y slymiau, does dim lle i ardd. Dyma boteli diod wedi ail-gylchu a hadau blodau haul ynddynt yn barod ar gyfer Sul y Mamau!!
dyfu rhywbeth...llysiau'r bara, brenhinllys, mintis, letus, tomatos....oherwydd bod cartrefi'r bobl mor agos at eu gilydd yn y slymiau, does dim lle i ardd. Dyma boteli diod wedi ail-gylchu a hadau blodau haul ynddynt yn barod ar gyfer Sul y Mamau!!
Sunday, 5 March 2017
5 Mawrth 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul
Dyma'n disgyblion yn barod at gyfer ein hoedfa deulu Mawrth 19: Seimon Pedr; Andreas; Iafo; Ioan; Philip; Bartholomeus; Mathew; Thomas; Iago; Simon y Selot; Jwdas a Jwdas Iscariot. Cawsom gyfle i edrych at y llun yma o'r Pilipinas gan edrych at ddwy ochr I fywyd y wlad - y llawnder a'r tlodi. Cafwyd sylwadau ardderchog gan y plant am rhannu, bod yn gyfartal a meddwl am bobl eraill yn ein gweddiau.
19 Chwefror 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul
Heddiw cawsom hanes Iesu Grist yn galw disgybl arall sef Mathew, y casglwr trethi. Ail-grewyd hanes Mathew gyda'r teganau.
5ed Chwefror 2017 - Hwyl a Sbri Ysgol Sul
Hanes Iesu yn dewis y pedwar disgybl oedd yn bysgotwyr: Iago, Ioan, Andreas a Seimon. Adnod TYRD DILYN FI.
Subscribe to:
Posts (Atom)