Sunday, 24 March 2013
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
24ain Mawrth 2013 - cyfle cyn y Pasg i fwynhau stori Iesu Grist o'r geni hyd heddiw pan mae yn Clwb Hwyl a Sbri gyda ni! Roedd digon o amser i chwarae gemau a gwneud lluniau cyn ein bod yn gwneud cacennau siocled i fynd adre. Pasg Hapus i bawb.
Friday, 22 March 2013
CHWARE TEG!
21ain Mawrth 2013 - parhau i weithio ar Y Digwyddiad heno a hefyd trafod y posibilrwydd o fedru gwneud oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn sgil y prosiect. Ardderchog ar gyfer cv.
DECHRAU DA!
20fed Mawrth 2013 - diwrnod prysur iawn i Dechrau Da! heddiw gan i Betsan Brysur ddod draw i'n cyfarfod ni! Aeth pawb i neuadd Ysgol yr Eifl i gael storiau, arwyddo a chanu. Yna yn y prynhawn fe ddaeth pawb yn ol i'r Festri i chwarae fel arfer.
Monday, 18 March 2013
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
17eg Mawrth 2013 - dyma Joseff yn ei got liwgar a chynlluniau unigol am got liwgar y plant. Mae holl gynllunwyr ffasiwn y dyfodol yn dod o Drefor!
Sunday, 17 March 2013
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
17eg Mawrth 2013 - heddiw cawsom ail hanner stori Joseff. Ei hanes yn y carchar yn yr Aifft a'i hanes yn cynorthwyo'r brenin gyda dehongli breuddwydion. Cafodd ddyrchafiad gan y brenin i edrych ar ol y storfeydd bwyd. Ac yn ystod y newyn bu'n bwydo ei frodyr a'i deulu. Maddeuodd i'w frodyr am ei adael a hynny yw addewid Duw yn ein stori - byddaf bob amser yn barod i faddau i ti. Mared gyrhaeddodd gyntaf yn ein gem yn adrodd stori Joseff. Dyma luniau o got liwgar Joseff a hefyd gynlluniau personol pawb o got liwgar - cynllunwyr ffasiwn o fri yn y pentref!
CLWB CHWARE TEG!
16eg Mawrth 2013 - cyfle i fynd i lawr i'r Nant heddiw i dynnu lluniau ar gyfer ein cyflwyniad dauganmlwyddiant Maesyneuadd. Mae ty cyfnod yn y Nant ac roedd hwn yn berffaith ar gyfer tynnu lluniau o deulu Sidney Roberts. Mwynhau siocled poeth yn y caffi cyn dod adre, i dynnu lluniau yng nghoed Lyrnion.
Friday, 15 March 2013
CLWB CHWARE TEG!
14eg Mawrth 2013 - mae'r criw yn dal i weithio ar Y Digwyddiad a dyma ragflas o gymeriadau cartwn - heb roi dim mwy i ffwrdd!!!
Wednesday, 13 March 2013
DECHRAU DA!
13eg Mawrth 2013 - mae'n wanwyn ar y fferm a dyma ddefaid ac wyn Anest, Begw ac Elis. Wythnos nesa cawn gyfle i fynd i Ysgol yr Eifl ble cawn Bore Stori yng nghwmni Leisa Mererid a phlant meithrin yr ysgol
Sunday, 10 March 2013
HWYL A SBRI
10fed Mawrth 2013 - mae'n storiau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ymwneud a'r teulu - teulu Noa, teulu Abraham a heddiw teul Joseff a'i frodyr. Ac rydym wedi clwyed addewid Duw wrth bob un o'r storiau hynny. Hefyd heddiw mae'n Sul y Mamau felly dyma fynd ati i wneud cardiau lliwgar i fynd adre.
Friday, 8 March 2013
CHWARE TEG!
7fed Mawrth 2013 - cawsom gyfle heno i drafod ymgyrch newydd IF-OS. Bydd Anna Jane Evans o Cymorth Cristnogol yn dod atom nos Sul 17 Mawrth i son mwy am yr ymgyrch - dyma poster Chware Teg! wedi i ni drafod mymryn ar yr ymgyrch.
SGWRS A SGRAM
7fed Mawrth 2013 - cawsom ddathlu Diwrnod y Llyfr heddiw gyda cinio Sul cig oen. Ein gwestai oedd Pryderi Llwyd Jones a bu'n dangos tri Beibl i ni - un Beibl Teulu o'r 18G, llyfr adnodau bach milwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf a Beibl ar Kindle newydd sbon danlli. Cawsom brynhawn difyr iawn. Bydd y cinio nesaf ym mis Ebrill.
DECHRAU GA!
6ed Mawrth 2013 - dathlu Sul y Mamau bu'r plant bach heddiw, a hefyd yn digwydd bod roedd tad Kimberly yn cael ei benblwydd! Roedd prysurdeb mawr yn gwneud cardiau. Dyma gardiau Kimberly, Anest, Elis ac Owen.
CLWB GWAU
4ydd Mawrth 2013 - roedd y Clwb Gwau yn llawn eto heddiw. Dyma flwch i ddal ffon bach o waith Ben a Catrin.
Sunday, 3 March 2013
HWYL A SBRI
3ydd Mawrth 2013 - heddiw roedd cyfle i ddysgu am Masnach Deg a chael hanes siocled o Ghana. Mae Comfort yn tyfu cocoa a'i werthu i gwmni Masnach Deg. Ers hynny, :18 Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos cariad! Mae prynnu cynnyrch Masnach Deg yn ffordd o ddangos cariad. Bu'r criw yn brysur yn addurno cacennau cyn mynd adre!
Saturday, 2 March 2013
DYDD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD
1af Mawrth 2013 - cynhaliwyd Gwasanaeth Byd-eang y Chwiorydd eleni am 4 o'r gloch yn y Festri. Paratowyd y gwasanaeth eleni gan wragedd Ffrainc. Trefnwyd ein oedfa ni gan Margaret Wyn a chawsom flasu bara a chaws Ffrangeg yn dilyn yr oedfa.
CLWB CHWARE TEG!
28ain Chwefror 2013 - noson o bosau a gemau gawsom heno. Nifer o gemau gwirion a chyfle i grafu'r meddwl. Roedd ras i geisio bwyta'r Mars cyn i'r person nesa gael chwech ar y dis, tynnu llun chi eich hun - yn y tywyllwch a cheisio dyfalu pwy ydw i? Ar ddarn o bapur roedd ystyr enw pob un o aelodau'r clwb - y gam oedd gweld pwy oedd pwy - dyma ystyron yr enwau - pwy ydw i?
Ton wen Aderyn Ymdrechu a Rhagori Un sydd fel Duw Duw Iachawdwriaeth Craig Teg
Cyn mynd adre bu i ni gyflawni Sudoku wedi ei baratoi gan Josh!
Ton wen Aderyn Ymdrechu a Rhagori Un sydd fel Duw Duw Iachawdwriaeth Craig Teg
Cyn mynd adre bu i ni gyflawni Sudoku wedi ei baratoi gan Josh!
BORE COFFI
28ain Chwefror 2013 - cynhaliwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn yr Hen Ysgol. Roedd y tywydd a'r cwmni yn braf iawn.
DECHRAU DA!
27ain Chwefror 2013 - cyfle heddiw i ddathlu Gwyl Dewi a chael addurno cacennau! Daeth nifer fawr i Dechrau Da! heddiw ac roedd angen maes parcio arbennig yn y festri ar gyfer cerbydau bach! Dyma gacen Anest. Mmmmmmm...
Subscribe to:
Posts (Atom)