Monday 8 December 2008

GWASANAETH DIWRNOD AIDS Y BYD 2008


Nos Sul 7fed Rhagfyr cynhaliwyd gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd. Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Evie Vernon sydd yn gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Jamaica - JASL - Jamaica AIDS Support for Life. Cawsom hefyd ychydig o hanes partner Wola Nani o Dde Affrica sydd yn cael ei gynnwys ym mhecyn ApĂȘl Undeb yr Annibynwyr 2008/09. Goleuwyd canhwyllau i gofio am waith gwirfoddolwyr dros y byd sydd yn rhoi eu bywyd i weithio dros bobl sydd yn byw gyda HIV ac AIDS, ac yn gwneud hynny yn aml iawn dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

No comments: