8fed Mai 2016 - thema Wythnos Cymorth Cristnogol yw car pob cymydog. Cawsom gyfle felly i atgoffa ein hunain o stori'r Samariad Trugarog. Roedd digon o hwyl i gael wedyn yn creu prygenfa ar gyfer ein arddangosfa. Ar Sul 22ain byddwn yn cynnal Brecwast Bangladesh am 10.00 ac yn dangos ffilm fer am blant yn derbyn cymorth gan Cymorth Cristnogol yn Bangladesh. Cofiwch adael i Llinos wybod
os mai bap sosej fyddwch angen neu un bacwn!
Saturday, 14 May 2016
Hwyl a Sbri Cymorth Cristnogol
1af Mai 2016 - Rydym am ddilyn adnoddau Cymorth Cristnogol ar gyfer y tri Sul nesa. Pobl sydd yn byw ar lannau'r afon Brahamputra yn Bangladesh yw ffocws yr Wythnos eleni. Mae'r glannau'n gorlifo ac yn dinistrio bywydau'r bobl. Mae Cymorth Cristnogol yn helpu'r bobl drwy godi eu tai au codi i mewn i'r tir. Mae teuluoedd yn cael buwch, geifr, ieir, hwyiaid a hadau i blannu llysiau maethlon. Mae teuluoedd hefyd yn cael pryfaidgenwair, er mwyn ffrwythloni'r tir! Wyddoch chi bod prygenwair yn medru byw i fod yn 10 oed!
Bu barddoni yn yr Ysgol Sul heddiw a dyma rai o'r gweddiau byddwn yn addurno'n murulun:
Diolch am y Duw byw.
Diolch am y bwyd o'r rhwyd.
Diolch am bobl yn tyfu a ffynnu.
Codi pobl o dlodi mae pry y ty!
Bu barddoni yn yr Ysgol Sul heddiw a dyma rai o'r gweddiau byddwn yn addurno'n murulun:
Diolch am y Duw byw.
Diolch am y bwyd o'r rhwyd.
Diolch am bobl yn tyfu a ffynnu.
Codi pobl o dlodi mae pry y ty!
Subscribe to:
Posts (Atom)