Friday, 11 March 2016
Oedfa Sul y Mamau
6ed Mawrth 2016 - cynhaliwyd oedfa Sul y Mamau a braf oedd gweld festri lawn. Cafwyd canu emynau, darlleniad o ddisgrifiad Duw o gariad allan o lyfr Corinthiaid; dangoswyd ffilm Hwyl a Sbri gyda gair gan Angharad Roberts. Diweddwyd gyda paned a chacennau i bawb.
Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul
28ain Chwefror 2016 - paratoi heddiw ar gyfer ein oedfa Sul y Mamau wythnos nesa. Bu creu cerdyn a hefyd creu stribed ffilm yn dangos cariad a gofal yr us sydd yn edrych ar ein holau a hefyd stribed ffilm i ddangos sut y medrwn ni ddiolch am hynny wythnos nesa!
Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul
7fed Chwefror 2016 - yng nghysgod adroddiadau dyddiol ar y teledu am y ffoaduriaid o Syria cawsom wasanaeth mewn pabell. Bu i ni ddysgu am y ffoaduriaid a chael picnic yn ein pabell. Trefnwyd casgliad o flancedi a dillad cynnes i anfon i Calais ac I Syria. Diolch i bawb am eu cyfraniad.
Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul
31ain Ionawr 2016 - ymlaen a ni drwy'r Hen Destament ac i ddysgu am Noa a sut y bu iddo wrando ar Dduw ac adeiladu'r arch ar gyfer ei deulu a'r anifeiliaid.
Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul
24ain Ionawr 2016 - heddiw cawsom ddysgu am stori Adda ac Efa a rhoi ein gweddiau o ddiolch ar y goeden.
Subscribe to:
Posts (Atom)