Wednesday, 25 November 2015
Hwyl a Sbri Ysgol Sul
22ain Tachwedd 2015 - diwrnod parti Hwyl a Sbri. Gemau a cwis Nadolig. Bydd Hwyl a Sbri yn ail ddechrau yn fuan yn 2016. Bydd croeso mawr i ti a dy ffrindiau yn Maesyneuadd - rhaglen ar gael yn fuan.
Monday, 9 November 2015
Diolchgarwch - Hwyl a Sbri
8fed Tachwedd 2015 - cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch gyda chyfle i weld cartwn y plant, roedd cyfle i lenwi bocsys sgidiau Nadolig a phaned a chacen i bawb. Ydych chi'n nabod y bobl yn y cartwn?
BORE COFFI
7fed Tachwedd 2015 - cynhaliwyd Bore Coffi er mwyn arddangos casgliad o luniau pensil gan bobl ifanc o Gaza. Mae'r lluniau yn dwyn y teitl Through young eyes yn waith gan bobl ifanc sydd yn byw yn Gaza gan gyfleu i yr anhawsterau, y creithiau, y tristwch a'r difrod yn eu bywydau.
Wednesday, 4 November 2015
HWYL A SBRI Ysgol Sul
25ain Hydref 2015 - parhau gyda thema Diolchgarwch gan edrych ar dyfu bwyd yn Mali. Er bod sychder mawr yn Mali mae'r pentrefwyr yn llwyddo gyda help, gwaith caled a meddwl clyfar i dyfu bwyd. Mae nionod yn tyfu'n dda mewn rhai o ardaloedd yn Mali ac fe gawsom dipyn o'r hanes gyda lluniau yn yr Ysgol Sul heddiw.
Subscribe to:
Posts (Atom)