17eg Mehefin 2015 - Roedd cyfle yn Llundain yn ddiweddar i lobio Aelodau Seneddol ar draws Prydain. Derbyn eu cadarnhad y byddant yn gwneud gymaint ac y gallan nhw i gefnogi polisiau sydd yn gwarchod y blaned ar gyfer y dyfodol. Roedd Hwyl a Sbri wedi gwneud bynting lliwgar i'w gyflwyno i Aelod Seneddol Dwyfor. Dymo fo ac yn y llun rydym wedi ymuno gyda pobl ifanc o Eglwys Noddfa Caernarfon. Yn y llun mae Hywel Williams, Arfon; Liz Saville-Roberts, Dwyfor Meirionnydd a Jonathan Edwards, Plaid Cymru. Da iawn chi blant!
Thursday, 18 June 2015
HWYL A SBRI
14eg Mehefin 2015 - diwrnod trip Hwyl a Sbri i Pili Palas! Aeth 35 i Pili Palas. Cafwyd hwyl yn gwylio'r pili pala a'r holl anifeiliaid eraill. Roedd digon o gyfle i chwarae yn yr ystafell feddal ac ar y castell gwynt! Cinio blasus a gwario yn y siop. Welwn ni chi yn yr Hydref! Diolch am bob cefnogaeth dros y flwyddyn.
Subscribe to:
Posts (Atom)