17eg Mai 2015 - cafwyd hot dogs wrth ni feddwl am eiriau o'r Beibl yn dechrau gyda G. Thema'r dydd oed Gwaith a Gorffwys. Mae heddiw yn ddiwedd tymor yr Ysgol Sul a byddwn yn ail ddechrau ym mis Medi. Felly ar ol yr holl waith caled gallwn orffwys dros yr haf. Dyna pam ein bod wedi creu poster lliwgar i hysbysebu trip Hwyl a Sbri i Pili Palas. Unwaith y byddwn wedi cael dyddiad fe fydd poster lliwgar yn dod drwy'r drws er mwyn i ni gael mynd i Sir Fon!!
Monday, 18 May 2015
Monday, 11 May 2015
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
3ydd Mai 2015 - dechreuwyd greu bynting ar gyfer rali Newid Hinsawdd yn Llundain 17 Mehefin. Mae'r bynting yn dangos anifeiliad, pysgod, adar a blodau ac yn gofyn i'r Llywodraeth newydd wneud eu gorau i warchod beth sy'n bwysig i ni!
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
2il Mai 2015 - cynhaliwyd Bore Coffi er budd y Clwb Hwyl a Sbri, gan obeithio y cawn drip arbennig i Pili Palas yn yr haf. Roedd digon yn digwydd - byrddau gwerthu, te a chacen. Addurnwyd y festri gyda gwaith celf y plant. Agorwyd y Bore Coffi gyda'r plant yn canu, darllen salm a gweddi. Gwnaed elw o £88. Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi.
Subscribe to:
Posts (Atom)