15fed Gorffennaf 2013 - dyma ddiwrnod braf i fynd am ein te blynyddol a mwynhau ein hunain unwaith eto yn Taro Deg. Bydd y Clwb Gwau yn ail ddechrau ym mis Medi felly mwynhewch eich seibiant dros yr haf.
Wednesday, 17 July 2013
Sunday, 14 July 2013
HWYL A SBRI
15 Gorffennaf 2013 - cawsom wneud gwahanol weithgareddau bore heddiw i gefnogi pump elusen. Mae teulu un o'r plant yn gwneud taith feics noddedig, felly dyma'n cyfle ni i gefnogi hefyd. Llyfrau oedd thema'r bore a cawsom hanes Mari Jones a'i Beibl. Hefyd daeth Angharad a gwahanol Feiblau mewn ieithoedd eraill i ni weld - Ffrangeg, Sbaeneg, Groeg, Indiaidd a Hebraeg. Rhwng gweithgareddau roedd cartwns Tom a Jerry ac roedd pawb wedi dod a bocs bwyd i ginio. Ar ol cinio cawsom greu Elfed yr eliffant allan o hen botel laeth. Cyn mynd adre roedd digon o amser i lunio bag cymorth ar gyfer uned Cymorth Cristnogol yn yr Eisteddfod - bagiau llawn bwyd, pobl i helpu, peli, gwartheg, gwydd ac ati. Diolch i bawb am gefnogi fe welwn ni chi gyd ym mis Medi.
Friday, 5 July 2013
BORE COFFI
4ydd Gorffennaf 2013 - cafwyd Bore Coffi diddorol a dymunol iawn yng nghwmni disgyblion yr ysgol heddiw. Roedd y gynulleidfa wrth eu bodd gyda chyflwyniad y plant ar wahaniaethau rhwng pentref Trefor a thre Caernarfon. Braf oedd cael gwrando ar fedli o ganeuon traddodiadol yn ymwneud a glan mor a hwylio!
Da iawn chi. Rhoed gair i'r plant gan Angharad Roberts wrth i ni ffarwelio gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn y Bore Coffi cymunedol.
Da iawn chi. Rhoed gair i'r plant gan Angharad Roberts wrth i ni ffarwelio gyda disgyblion Blwyddyn 6 yn y Bore Coffi cymunedol.
CLWB GWAU
1af Gorffennaf 2013 - cynhaliwyd y Clwb Gwau olaf cyn ein seibiant dros yr haf. Croesawyd disgyblion Blwyddyn 6 atom er mwyn cal dymunno'n dda iddyn nhw yn Ysgol Glan y Mor ym mis Medi. Bydd ein cyfarfod nesaf prynhawn dydd Llun 15fed Gorffennaf pan gawn de prynhawn yn Taro Deg. Cysyllwch a Llinos os hoffech ymuno gyda ni.
Subscribe to:
Posts (Atom)