24ain Ebrill 2013 - daeth ein thema Pasg i ben heddiw gyda chyfle i wneud coron! a dyma goron Tomos ac un Kimberly. Wythnos nesa byddwn yn edrych ar 'Fi fy hun a'r teulu'.
Wednesday, 24 April 2013
Sunday, 21 April 2013
HWYL A SBRI YSGOL SUL
21ain Ebrill 2013 - heddiw cynhaliwyd Oedfa Deulu a daeth gwestai arbennig atom o Bolivia. Mae Cecilia Cordova yn westai i Cymorth Cristnogol ac yn teithio drwy Gymru am wythnos. Roedd yn fraint cael cwrdd a Cecilia a chlywed hannes sut mae Cymorth Cristnogol yn helpu pobl yn Bolivia. Cawsom weddiau wedi eu haddurno gyda hetiau traddodiadol Bolivia a hefyd unawdau piano gan Alaw, Ella, Erin, Lauren a Mared. Mae cyfeilyddion ar gyfer y dyfodol ym Maesyneuadd! Daliwch ati! Mae Cecilia yn gweithio gyda phrosiectau amaethyddol ac felly cawsom ninnau gyfle i aros hwylio'r te, in addurno pot planhigyn a phlannu hadau!
Thursday, 18 April 2013
CLWB CHWARE TEG!
18fed Ebrill 2013 - mae'r Digwyddiad yn agosau, dau gyfarfod arall ac fe gewch weld ein gwaith dros y chwe mis diwethaf. Byddwn yn cynnal y Digwyddiad nos Iau 23ain Mai!
DECHRAU DA!
17eg Ebrill 2013 - cyfle heddiw i goginio! Gwneud cacennau Rice Crispies a siocled. Tybed fydd y dwylo bach yn gadael llonydd i'r cacennau gael cyfle i galedu??
Monday, 15 April 2013
HWYL A SBRI YR YSGOL SUL
14eg Ebrill 2013 - dyma gyfle i baratoi ar gyfer yr Oedfa Deulu wythnos nesa pan fyddwn yn croesawu Cecilia Cordova o Bolivia atom. Rydym wedi paratoi gweddiau ac addurno hetiau traddodiadol o ardaloedd yr Andes, ar gyfer Cecilia.
Thursday, 11 April 2013
CLWB CHWARE TEG!
10fed Ebrill 2013 - cawsom gyfle heno i weithio gyda Ed Holden a chael gwrando ychydig o'i hanes a'i ddawn arbennig mewn beatbox. Roedd yn gyfle gwych i weld Ed wrth ei waith a chyn diwedd y sesiwn roeddem wedi creu rap i gyd-fynd a'n ffilm o stori Maesyneuadd. Dyma'r geiriau, ond i glywed y rap fe fydd rhaid i chi ddod i'r Digwyddiad yn y dyfodol agos!
Rap 200
Criw Maesyneuadd yn y lle
Gwrandewch ar ein rap gyda paned o de.
Cychwyn y stori gyda Sidney bach
Dyma'r stori - mae'n stori iach.
John Griffiths - y gweinidog
Pregethu'r gair yn fyw ac yn hwyliog.
Sidney yn cael ei ysbrydoli
i agor capel ac addoli.
Neges o Gaernarfon i lawr i'r Hendre
Dechrau addoli yn y pentre
Dyma ni yn sefyll droed i droed
Maesyneuadd - 200 oed!
Rap 200
Criw Maesyneuadd yn y lle
Gwrandewch ar ein rap gyda paned o de.
Cychwyn y stori gyda Sidney bach
Dyma'r stori - mae'n stori iach.
John Griffiths - y gweinidog
Pregethu'r gair yn fyw ac yn hwyliog.
Sidney yn cael ei ysbrydoli
i agor capel ac addoli.
Neges o Gaernarfon i lawr i'r Hendre
Dechrau addoli yn y pentre
Dyma ni yn sefyll droed i droed
Maesyneuadd - 200 oed!
DECHRAU DA!
10fed Ebrill 2013 - mae'n wanwyn yn Dechrau Da! ac felly dyma gyfle i greu cyw bach pluog! Daeth criw agos iawn i oedran eu gilydd heddiw, a chroesawyd dau fach newydd sef Isabella a Llywelyn. Edrych ymlaen i weld pawb eto yr wythnos nesa.
CLWB GWAU
2il Ebrill 2013 - cynhaliwyd Clwb Gwau arferol heddiw ac fe gafodd pawb ychydig o wlan i helpu gyda'r holl wau! Cawsom wybod ein bod wedi tan wario ar ein cynllun grant. Felly, fe brynwyd 38 pellen o wlan i'w rannu rhwng yr aelodau.
HWYL A SBRI
27ain Mawrth 2013 - cyfle yn ystod gwyliau'r Pasg i ddod at ein gilydd a chael gweld ffilm deuluol. Roedd ffilm Rio yn hyfryd a'r elw yn cefnogi taith feics noddedig.
Subscribe to:
Posts (Atom)