Sunday, 16 December 2012
CLWB CHWARE TEG!
15fed Rhagfyr 2012 - fe gafodd y merched gyfle heddiw i fynd i Goleg y Bala. Trefnwyd yno ddiwrnod arbennig ar gyfer merched - Diwrnod Gwerthfawr. Roedd yn llawn gweithgareddau a seminarau. Lois Franks o Gaerdydd oedd y siaradwraig a chawsom ganddi hanes Mair ac Elizabeth. Bu cyfle i weddio gan losgi'n pechodau a phechodau'r byd yn ein herbyn. Cyfle i wneud crefft a chael cinio Nadolig tri chwrs. Bu llawer iawn o gemau a chwerthin a chyfle i wneud ffrindiau newydd o Aberystwyth, Llansannan Y Bala a Phen Llyn
SGWRS A SGRAM
13eg Rhagfyr 2012 - cinio Nadolig bendigedig gawsom heddiw wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl. Roedd yn braf cael gwahodd Anti Mandy atom am baned a phwdin Nadolig. Bydd Sgwrs a Sgram yn cyfarfod eto yn y gwanwyn felly Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
DECHRAU DA!
12fed Rhagfyr 2012 - mae'n nesau at y Nadolig felly dyma gyfle i wneud cardiau ar gyfer y teulu! Nadolig Llawen i bawb yn Dechrau Da!
CLWB GWAU
11eg Rhagfyr 2012 - te prynhawn i bawb heddiw yn Taro Deg. Daeth 12 i fwynhau paned a sgwrs. Bydd y Clwb Gwau yn ol ar y 7fed Ionawr 2013.
Saturday, 8 December 2012
CLWB CHWARE TEG!
6ed Rhagfyr 2012 - mae'r gwaith wedi cychwyn ar greu baner dathlu 200 mlynedd gyda Margaret Ellis. Gwyliwch eto i weld y gwaith gorffenedig!
OEDFA CARCHARORION CYDWYBOD
25ain Tachwedd 2012 - cynhaliwyd oedfa eto eleni i gofio am garcharorion cydwybod. Rydym yn casglu'r wybodaeth am y carcharorion gan Amnest Rhyngwladol. Mae'r wal weddi grewyd yn yr oedfa yn cynnwys hanesion am garcharorion ac hefyd yn cynnwys yr achosion bu Clwb Hwyl a Sbri a Clwb Chware Teg! yn drafod yn eu cyfarfodydd nhw.
DECHRAU DA!
21ain Tachwedd 2012 - cawsom brynhawn difyr iawn eto yng nghwmni ein gilydd. Gweithgaredd heddiw oedd addurno bisgedi'r gofod! Ein llyfr stori heddiw oedd Beth Nesaf? a dyma lun o tedi yn mynd i'r lleuad ar ein bwrdd clai.
Subscribe to:
Posts (Atom)