Monday, 29 October 2012
HWYL A SBRI
28ain Hydref 2012 - wrth i ni ymarfer ar gyfer yr oedfa ddathlu wythnos nesa cawsom gwmni Mr Andrew Lenny. Roedd Mr Lenny wedy bod yn pregethu ym Maesyneuadd ac fe alwodd i mewn i Clwb Hwyl a Sbri cyn troi am adre. Cawsom ymarfer da ar gyfer yr oedfa a hefyd chwarae gemmau ar ein themau dros yr wythnosau diwethaf.
CHWARE TEG!
25ain Hydref 2012 - roedd prysurdeb mawr heno wrth i ni lunio trionglau ar gyfer y bynting dathlu a hefyd lenwi bocsys Operation Christmas Child. Diolch yn fawr i chi.
DECHRAU DA!
24ain Hydref 2012 - Daeth nifer ynghyd eto heddiw. Mae Elis, Owen, Ellie, Shauna, Robin, Begw, Sion a Kimberley yn ffrindiau mawr erbyn hyn - dewch i ymuno gyda nhw!
Saturday, 20 October 2012
CLWB CHWARE TEG!
18fed Hydref 2012 - cynhaliodd y Clwb gwis ar gyfer y pentref. Cwis oedd yn cefnogi Operation Christmas Child. Doedd dim tal mynediad - eich mynediad i'r cwis oedd dod ag eitem ar gyfer gwneud bocsys. Bydd y criw yn mynd ati wythnos nesa i wneud bocsys ar gyfer plant. Diolch i bawb am gyfrannu eitemau lu a hefyd cyfrannu'n ariannol tuag at yr elusen. Llongyfarchiadau i'r bobl ifanc am drefnu noson mor lwyddiannus a byrlymus. Roedd y festri yn llawn pobl ac awyrgylch braf.
CLWB CHWARE TEG!
18fed Hydref 2012 - daeth Nicola yn ol i'n cynorthwyo gyda grant Llwyddo'n Lleol ar gyfer y Digwyddiad. Daeth Margaret Ellis hefyd. Mae Margaret Ellis yn mynd i'n helpu i wneud baner dathlu sy'n dangos lluniau capel Maesyneuadd a hefyd bwthyn Maesyneuadd ar fuarth y fferm. Mae'n adeg cyffrous ac mae llawer o waith o flaen y criw! Diolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb a chefnogaeth hyd yn hyn.
DECHRAU DA!
17eg Hydref 2012 - llond lle o chwarae a chael hwyl heddiw! Dyma gyfraniadau Dechrau Da! tuag at y bynting dathlu. Hyfryd iawn a gweithgar.
HWYL A SBRI
14eg Hydref 2012 - cawsom fore difyr yn paratoi bynting fydd yn addurno'r festri ar gyfer Oedfa'r Dathlu ar ddydd Sul 4ydd Tachwedd. Bydd Clwb Chware Teg! Dechrau Da! a Grwp Cefnogi yn ychwanegu at y bynting hwn - felly dylai fod yn lliwgar iawn!!
Wednesday, 10 October 2012
DECHRAU DA!
10fed Hydref 2012 - Croesawyd Robin a Caio atom heddiw i ganol teulu hapus Dechrau Da! Parhau ydym gyda thema Diolchgarwch gan greu murlun.
Ffrwyth y berllan, cnwd yr ardd
yd y meusydd, blodau hardd
diolch iti, Arglwydd da,
am ddiod ac am fara.
Ffrwyth y berllan, cnwd yr ardd
yd y meusydd, blodau hardd
diolch iti, Arglwydd da,
am ddiod ac am fara.
GRWP ARWAIN ADDOLIAD
8fed Hydref 2012 - Mae'r Grwp wedi ail ymgynull i drafod a threfnu oedfaon i ddathlu addoli ym Maesyneuadd ers 200 mlynedd. Dydd Sul 4ydd Tachwedd bydd oedfa deulu yn y bore am 10 o'r gloch gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Bydd oedfa yn dilyn am 5.30 yr hwyr.
Monday, 8 October 2012
HWYL A SBRI
7fed Hydref 2012 - daeth 11 o blant i Hwyl a Sbri newydd ar ddydd Sul. Rydym yn paratoi i ddathlu 200 mlwyddiant ym Maesyneuadd. Heddiw roedden ni'n edrych ar deulu'r eglwys. Edrych ar Eglwys Maesyneuadd fel coeden deulu, a'r plant yn Nhrefor heddiw yw dail newydd y goeden. Adnod y dydd oedd "gadewch i blant ddod ataf fi". Roedd y plant yn ymateb yn wych ac yn deall mai lle i helpu bobl ac i fod gyda ffrindiau yw'r eglwys - ynghyd a lle i ddysgu am Iesu Grist ac addoli Duw. Dyma goeden deulu eglwys Maesyneuadd.
CLWB CHWARE TEG!
4ydd Hydref 2012 - noson yn llawn trafodaeth am gynlluniau'r Digwyddiad. Hefyd bu'r criw yn gwylio ffilm gan Operation Christmas Child. O ganlyniad bydd cwis yn cael ei gynnal nos Iau 18fed Hydref. Y tal mynediad fydd eitem ar gyfer bocs OCC. Bydd Clwb Chware Teg! yn gwneud bocsys i fyny gyda'r eitemau ddaw i law.
BORE COFFI MACMILLAN
4ydd Hydref 2012 - cynhaliwyd Bore Coffi er budd Macmillan. Mae'r gronfa yn dal ar agor am wythnos arall os na chawsoch gyfle i gyfrannu. Diolch yn fawr.
DECHRAU DA!
3ydd Hydref 2012 - llond lle o blant bach yn chwarae'n hapus a chyfle i'r oedolion gael paned a sgwrs.
Monday, 1 October 2012
CLWB GWAU
1af Hydref 2012 - daeth nifer ynghyd eto heddiw a chafwyd nifer fawr o eitemau ar gyfer Ysbytai Glanclwyd a Gwynedd. Hefyd mae nifer eto o ddillad ar gyfer babanod Siop Chips - cynllun ar gyfer plant newydd eu geni yn Affrica. Mae Ben Allan a Catrin yn parhau i ddod i'r Clwb Gwau ac yn creu poced i'r ffon bach.
CHWARE TEG!
27ain Medi 2012 - daeth Nicola o Llwyddo'n Lleol i roi newyddion da iawn i'r hogiau - mae nhw wedi llwyddo cael bwrseriaeth o £1000 tuag at drwsio beics! Merched - ewch ati rwan i sicrhau llwyddiant y Digwyddiad! Llongyfarchiadau!
DECHRAU DA!
26ain Medi 2012 - roedd hi'n ddiwrnod arbennig heddiw gan bod Dechrau Da! yn ailddechrau a croesawyd plant newydd i'n plith. Croeso i Shauna, Elis, Owen, Begw, Tomos a hefyd Cerys sydd yn ymweld a ni pan fydd hi'n ymweld a nain a taid yn Nhrefor. Croeso cynnes i blant bach ddod draw ar brynhawn dydd Mercher gyda mam, dad, taid a nain neu warchodwr - ac ym mis Hydref y thema fydd Diolchgarwch.
CALENDR TREFOR 2013
Diolch i bawb sydd wedi anfon lluniau ar gyfer eu dewis ar gyfer calendr 2013. Mae 51 llun wedi mynd i'r beirniad Dewi Wyn, fydd yn dewis 12 ar gyfer y calendr. Llongyfarchiadau a phob hwyl i bawb!
Subscribe to:
Posts (Atom)