Monday, 24 September 2012
CLWB CHWARE TEG!
20fed Medi 2012 - tra bo'r bechgyn wedi bod yn brysur yn llenwi ffurflen gais am grant i drwsio beics mae'r merched wedi bod yn brysur hefyd. Mae nhw'n trefnu DIWGYWDDIAD i ddathlu 200 mlwyddiant addoli yn Nhrefor! Bydd nifer o weithgareddau yn digwydd - gwell i chi gadw mewn cysylltiad drwy'r blog i weld be sy'n digwydd!!
Wednesday, 12 September 2012
CLWB CHWARE TEG!
12fed Medi 2012 - daeth y bechgyn ynghyd i roi'r paent gwyn ar y BMX! Mae'n datblygu'n feic newydd sbon. Er mwyn cwblhau'r ffurflen gais ar gyfer ymweliad Nicola nos fory, roedd angen gweithio ar logo hefyd a dyma i chi ddetholiad o'r gwaith TMX - Trefor MX! Pa un sy'n cael eich pleidlais chi? Diolch i Lowri am ddod i ganol yr hogiau ac am helpu gyda'r logos.
CLWB GWAU
11eg Medi 2012 - croesawyd pawb yn ol wedi gwyliau'r haf a braf oedd cael cyfarfod gyda'n gilydd yn y festri ar ei newydd wedd! Roedd cryn dipyn o waith wedi ei gyflawni dros yr haf, er budd y ddwy uned gofal dwys ond hefyd, ar gyfer prosiect arbennig. Mae'r merched wedi bod yn cefnogi prosiect yn Mali - Fish and Chip Babies ac wedi gwau 164 o siwtiau ar gyfer babis newydd gael teithio adre o'r ysbyty. Siwtiau lliwgar iawn i arbed cael eu hanfod adre mewn papur newydd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Croeso i chi ymuno gyda ni - bob prynhawn dydd Llun cyntaf yn y mis rhwng 2 a 4 o'r gloch. Croesawyd Ben, Catrin ac Allan o'r Ysgol atob i ddysgu gwau.
Monday, 10 September 2012
CLWB CHWARE TEG!
7fed Medi 2012 - dyma rai o'r aelodau yn mwynhau trip i Rhyl. Aethom i ymweld a Parc BMX Marsh Road. Roedd yn ddiwrnod hynnod braf ac roedd hynny'n gwneud y beicio yn anodd iawn yn y gwres. Ond buan iawn aeth dwy awr ac roedd hyder gwneud campau yn codi wrth fynd ymlaen!
CLWB CHWARE TEG!
6ed Medi 2012 - daeth Nicola atom er mwyn llenwi ffurflen gais gyda Llwyddo'n Lleol. Rydym am geisio grant i helpu gyda atgyweirio'r beics a hefyd mae'r merched yn cynllunio Digwyddiad, i ddathlu 200 mlwyddiant achos yr Anibynnwyr yn Nhrefor.
Subscribe to:
Posts (Atom)