Wednesday, 13 June 2012
CLWB GWAU
12fed Mehefin 2012 - daeth criw da ynghyd i fwynhau rhannu, sgwrsio a chwmni. Rydym yn edrych ymlaen am egwyl dros yr haf ond cyn hynny bydd cyfle i fwynhau te prynhawn yn fuan.
DECHRAU DA!
13eg Mehefin 2012 - ein thema yw O dan y Mor! dyma ein murlun o bysgod sydd yn byw o dan y mor. Bu'r plant yn brysur iawn heddiw gyda chlai a phaent ac addurniadau! Dyma waith Kimberley, Martha a Sion.
Wednesday, 6 June 2012
CLWB CHWARE TEG
6ed Mehefin 2012 - bu Miriam, Lois, Leah a Non yn gwirfoddoli ym mhabell Cymorth Cristnogol yn ystod yr Eisteddfod. Diolch am eich gwaith ac am sticio'r holl sticeri ar yr Eisteddfodwyr a'r criw ffilmio!!
Sunday, 3 June 2012
HWYL A SBRI
3ydd Mehefin 2012 - dyma'r diwrnod mawr Gwasanaeth Bore Sul Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 a llond bws o gefnogwyr Trefor wedi mynd i glywed y plant yn canu! Da iawn Elliw, Lauren ac Allan am ddysgu eich gwaith a chefnogi'r Urdd. Er gwaethaf y tywydd cafwyd picnic yn y Babell Groeso i aros y bws i fynd nol adre! Dymuniadau gorau i bawb am weddill Eisteddfod lwyddiannus.
Subscribe to:
Posts (Atom)