Heno - 27ain Ionawr bu i ni edrych ar 'fod yn onest' ac effaith arnom ni a phawb arall o ddweud celwydd. Pwy dybiech chi i fod yn fwyaf onest o'r rhain? Arlywydd yr Unol Daliaethau neu eich hoff ganwr pop? Y Gweinidog neu athro ysgol? Cariad neu ffrind mewn 'chat room'? Chi eich hun neu ffrind? Rhoddodd y dewisiadau yma ddigon i'r criw Chware Teg drafod! Cawsom gwmni Ifan Prys bu'n helpu ni lunio diarhebion a'n dysgu i gynganeddu! Cafwyd dipyn o hwyl wrth wneud hyn a'r canlyniad - brawddegau sydd yn llawn haeddu lle mewn unrhyw Eisteddfod! Da iawn pawb!
Nid mel sydd ym mhob celwydd
Mae Non yn hollol onest
Mae calon aur yn onest
'Sdim ffordd nol o gelwydd golau
Dwedodd y ddol gelwydd golau
Tragwyddol yw celwydd golau
Mewn llaw mae braw a bri
Friday, 28 January 2011
Monday, 24 January 2011
CLWB CHWARE TEG!
GWASANAETH Y MIS
Gan bod Aled Pickard o Cymorth Cristnogol yn ymweld a Clwb Chware Teg! heno roedd yn gyfle iddo gael cyfarfod a disgyblion Ysgol yr Eifl yn ystod y dydd (20fed Ionawr). Mae Aled wedi bod yn gweithio i bartneriaid Cymorth Cristnogol yn De Affrica - Wola Nani am 6 mis. Roedd y plant yn frwdfrydig iawn i'w holi am y profiad a chael dysgu am waith Aled gyda Wola Nani.
ARWAIN ADDOLIAD
Cynhaliwyd y pedwerydd cyfarfod o'r cwrs nos Lun 17eg Ionawr. Yn y modiwl hwn roeddem yn edrych ar weddi mewn addoliad, gan ddilyn patrwm Gweddi'r Arglwydd. Hefyd, roeddem yn edrych ar ffyrdd gwahanol o weddio megis - cyd-weddio, cerddoriaeth, distawrwydd, ysgrifennu gweddiau ac yn y blaen. Yn mis Chwefror byddwn yn edrych ar gerddoriaeth mewn addoliad.
O FETHLEHEM I'R GROES
Bore dydd Sul 16eg Ionawr cafwyd oedfa O Fethlehem i'r Groes. Defnyddiwyd cyflwyniad Naws y Nadolig sef cyflwyniad pwynt pwer o luniau a cherddoriaeth ynghyd a dau ddarlleniad o'r Beibl:
1 Ioan 1:1-17
Ioan 2: 1-11
1 Ioan 1:1-17
Ioan 2: 1-11
Saturday, 15 January 2011
CLWB CHWARE TEG!
Nos Iau 13eg Ionawr cawsom gwis ar Ewrop. Paratowyd y cwis gan Miriam sydd yn mynd i'r Senedd Ewropeaidd ar ddiwedd y mis ar brofiad gwaith. Pob hwyl!
Subscribe to:
Posts (Atom)