Nos Sul Gorffennaf 25ain roedd yna lawer i'w ddathlu yn yr Oedfa. Roedd y gegin newydd yn barod ac ar ei newydd wedd. Da oedd hynny gan ein bod am gael lluniaeth ysgafn ar ddiwedd yr Oedfa heno. Y Parch Alan John oedd yn pregethu a hynny wrth iddo ddathlu 50 mlynedd yn y weinidogaeth. Bu yma yn Nhrefor rhwng 1966 a 1969. Cyflwynwyd iddo waith pwyth arbennig iawn gan Margaret Wyn Ellis. Hefyd cafwyd cyfle i ddathlu penblwydd Mr Huw Humphreys yn 90 oed! Llongyfarchiadau a phenblwydd hapus!
Sunday, 25 July 2010
Friday, 23 July 2010
CLWB HWYL A SBRI
Friday, 16 July 2010
LLEWOD YN Y 'STEDDFOD
Do fe aeth y llewod i Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerfyrddin a chael canmoliaeth fawr, ond yn anffodus eleni nid oedd y murlun yn dod ir brig yng nghystadleuaeth Cwpan Denman. Er hynny, mae'r llewod wedi cael gwahoddiad i'r Eisteddfod Genedlaethol! Felly, os ydych chi'n mynd i'r Eisteddfod eleni cofiwch alw ym mhabell yr Annibynwyr i'w gweld!
Wednesday, 7 July 2010
CIC AM GOL!
Nos Fawrth 6ed Gorffennaf cynhaliwyd Cic am Gol - noson Clwb Chware Teg! ar gyfer Cymorth Cristnogol. Roedd y plant yn cael hyfforddiant pel-droed gan Alaw Japheth, ac er i'r tywydd braf gilio roedd pawb yn frwd iawn i barhau! Yn dilyn toriad am ddiod a chacen cafwyd Cic am Gol gyda Morgan Jones yn golgeidwad. Sion Hari oedd y sgoriwr eleni ac yn enill Cwpan Sgorio. Llongyfarchiadau i Sion a diolch i bawb fu draw yn y Ganolfan yn cefnogi. Codwyd £30 ar ran Clwb Chware Teg tuag at brosiectau cymodi drwy chwaraeon, Cymorth Cristnogol.
Monday, 5 July 2010
CLWB GWAU
Daeth tymor y Clwb Gwau i ben heddiw (5ed Gorffennaf). Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu gwlan a gweill ar gyfer y Clwb. Roedd yn bryd ffarwelio a disgyblion Blwyddyn 6 hefyd, sydd yn gadael Ysgol yr Eifl am Ysgol Glan y Mor ym mis Medi.
PEDAL
Nos Lun 5ed Gorffennaf cafwyd gwers bwysig iawn gan Adam ar feicio'n ofalus drwy'r pentref. Roedd y daith o amgylch y pentref yn cychwyn o iard yr Ysgol ac yn mynd allan i'r ffordd sy'n arwain i ganol y pentref. Yna ymlaen at y Ganolfan i lawr at y mor ac yn ol i'r pentref i fyny Ffordd yr Eifl. Roedd rhaid trafod rheolau'r ffordd fawr wrth pob cyffordd brysur a dysgu arwyddo yn gywir wrth fynd ar y daith. Edrychwn ymlaen at wyliau'r haf pan gawn gyfle i feicio Lon Eifion a chael picnic!
Friday, 2 July 2010
BORE COFFI

Yna, dadorchuddiwyd murlun a wnaeth y plant gyda'r artist Cefyn Burgess. Roedd y murlun yn cynnwys lluniau o eglwys a thri chapel Trefor a syfrdanwyd pawb gan ei safon uchel.
Bu'r bore yn llwyddiant mawr a llwyddwyd i godi £35 ychwanegol tuag at elusen ddewisiedig Ysgol yr Eifl, sef CLIC (Cancer and Leukemia in Children).
POB HWYL I'R LLEWOD!

PERERINDOD
Bydd Pererindod i ardal Pen Llyn gan gynnwys ymweliad ag Eglwys Penllech (i'w gweld yn y llun) ddydd Sul yr 8fed o Awst. Manylion pellach i ddilyn.
CLWB GWAU

Os oes gennych awydd helpu, dewch i Maesyneuadd am 2 o'r gloch unrhyw ddydd Llun cyntaf y mis ac ymuno â ni.
Rydym wrth ein bodd yn cael cwmpeini Blwyddyn 6, ac yn ymfalchio bod eu gwau yn gwella'n enbyd rhwng Mis Medi a Mis Mehefin bob blwyddyn. Daliwch ati wedi cyrraedd Glan y Môr!
Subscribe to:
Posts (Atom)