Wednesday, 29 April 2009
CLWB HWYL A SBRI 29.04.09
Y GYMANFA FACH
Daeth Gymanfa Fach Annibynwyr Llyn i Drefor eleni. Cafwyd gwasanaeth o ganu yn Y Ganolfan gyda Llinos. Ar y canol fe aeth yr oedolion i sgwrsio gyda Margaret Jones Chwilog ac fe gafodd y plant gyfle i ddysgu am weddio. Gweddi bersonol a gweddi dros eraill. I ddiweddu cafwyd picnic ar y cae chwarae yn yr haul braf. Dyma lun o waith y plant wrth iddyn nhw gofio am blant eraill mewn gweddi.
Friday, 24 April 2009
OEDFA WOLA NANI
Thursday, 23 April 2009
CLWB CHWARE TEG
CLWB GWAU
Thursday, 9 April 2009
OEDFA MASNACH DEG 2009


Rydym ni gyd yn gyfarwydd iawn erbyn hyn a'r gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud i gymunedau dros y byd. Mae Masnach Deg yn golygu gwell pris, oriau gwaith rhesymol ac amodau gwaith gwell, a chytundebau masnachu gwell ar gyfer ffermwyr a gweithwyr. Ond mae Masnach Deg hefyd yn golygu grymuso pobl, fel bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain, a'r gallu i gyrraedd eu potensial fel dinasyddion. Pan fyddwn ni'n meddwl am Fasnach Deg - bwyd fydd fwyaf cyfarwydd i ni. Felly, yn oedfa Masnach Deg Trefor fe gawsom Sioe Ffasiwn er mwyn cyflwyno dillad Masnach Deg! Roedd deuddeg model o Clwb Chware Teg! yn gwisgo dillad Masnach Deg wedi dod o siop Kingdom Krafts yn Llandudno - dillad gan gwmniau yn buddsoddi yn eu gweithwyr, eu cynhyrchwyr a'u cymunedau. Trwy brynu dillad Namaste, People Tree, Alternatives a TradeCraft i enwi dim ond rhai - rydym yn sicrhau gwell gwaith, gwell gofal, gwell addysg, gwell hyfforddiant, gwell cyfle, gwarchod sgiliau traddodiadol a diwylliant cymunedau - pa ffordd well na dod a ffasiwn a chyfiawnder cymdeithasol at eu gilydd a sicrhau gwell dyfodol i bobl ar draws y byd. Saturday, 4 April 2009
CLWB HWYL A SBRI


Paratoi ar gyfer Gwasanaeth Wola Nani oeddem ni yr wythnos yma. Rydym am gynnal Gwasanaeth Wola Nani dydd Sul 19 Ebrill. Mae apel Undeb yr Annibynwyr eleni yn canolbwyntio ar waith Cymorth Cristnogol yn De Affrica, ac un o'r partneriaid mae nhw'n gweithio gyda nhw yn Ne Affrica yw Wola Nani. Yn y gwasanaeth bydd y plant yn cael cyfle i addurno eu llestri papier-mache tra bydd y rhieni yn mwynhau paned a sgwrs!
Subscribe to:
Comments (Atom)