27ain Tachwedd 2013 heno cawsom wybod am bedwar o fobl ifanc sydd yn wynebu cyfnodau hir mewn carchardai yn Cambodia, Ethiopia a Tunisia, neu sydd yn byw mewn ofn mewn pentref gwledig yn Brasil. A hynny oherwydd iddyn nhw sefyll dros hawliau pawb arall yn eu cymunedau, a phrotestio'n heddychlon yn erbyn eu llywodraethau. Mae'r wybodaeth i gyd ar gael ar ein cyfer gan Amnest Rhyngwladol gyda syniadau ar gyfer anfon lluniau a negeseuon iddyn nhw gan bobl ifanc fel ni i'w ysbrydoli, i godi eu calonnau ac i ddweud ein bod yn gweddio drostyn nhw. Dyma waith Clwb Chware Teg! fydd yn cael ei anfon i Amnest Rhyngwladol y Nadolig hwn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment