Monday 21 May 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

20fed Mai 2018
Sul Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2018




Sunday 6 May 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

6ed Mai 2018
Gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol oedd thema heddiw ac fe gawsom gyfarfod Jephthe a Zaza o Haiti. Mae Ynys Haiti yn diodde daeargrynfeydd a chorwyntoedd cryf iawn ond mae Zaza a Jephthe gyda'n help ni yn gryfach na'r stormydd! Mae Jephthe a Zaza wedi cael ty newydd cryf wedi ei adeiladu gyda brics, sydd yn eu cadw'n saff. Helpwch ni i adeiladu gobaith yn Haiti drwy ddod i frecwast bore dydd Sul 13eg Mai am 10.30. Dyma dy gobaith Ysgol Sul Maesyneuadd - fydd yn cael ei gyflwyno i'r Prif Weineidog i ofyn am fwy  o waith i warchod hawliau pobl sydd wedi eu dadleoli ar draws y byd, ac sydd wedi colli eu cartrefi.




Sunday 22 April 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

22ain Ebrill 2018
Geiriau ola Iesu Grist i'w ddisgyblion cyn iddo fynd i'r nefoedd:
"Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas a'r Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glan. Dysgwch nhw i wneud poepth dw i wedi ddweud wrthych chi. Gallwch chi fod yn siwr y bydda i efo chi bob amser, nes bydd diwedd y byd. (Mathew 28:19-20).
Dyma daflenni Ieuan, Deio a Meinir at Yr Ysbryd Glan. Hefyd ein ffrindiau o wahanol wledydd yn cyhoeddi Bore Da!





Sunday 15 April 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

15fed Ebrill 2018
Ymlaen a hanes Y Pasg ac Iesu yn codi o'r bedd gwag. A dyma nhw, y bedd gwag yn yr ardd gan Ieuan, Deio, Meinir a Tom.  Heddiw bu i ni ddarfod ein gwaith ar gyfer cystadleuaeth yr Annibynwyr a fydd yn cael ei gyflwno yng nghystadleuaeth Cwmpan Denman. Da iawn blant a phob hwyl.

Dydy Iesu ddim yma; mae yn ol yn fyw!





Thursday 12 April 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

8fed Ebrill 2018
Gobeithio i bawb fwynhau'r egwyl dros Y Pasg a chael ambell wy Pasg blasus.  Wedi cael stori'r Pasg heddiw bu'r dosbarthiadau'n brysur yn creu ar gyfer ein cywaith Cymru a Madagascar.  Mae'r dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Denman Undeb yr Annibynwyr yn prysur garlamu tuag atom ac mae'r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda. Pob lwc gyda'r gystadleuaeth!  Gem boblogaidd yn Madagascar ydi Bao. Mae'r plant yn ei chwarae gyda hadau, cerrig neu gregyn fel arfer - fe gawsom dro ar y gem gan ddefnyddio bagiau ffa a gweld pwy oedd y cynta i groesi'r 'stafell!


Wednesday 21 March 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

18 Mawrth 2018
Tasg y Grawys wythnos diwethaf oedd casglu pensiliau, pinau ffelt, creyonau a.y.y.b ar gyfer wardiau plant Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Glanclwyd. Diolch yn fawr i bawb am gyfrannu mor hael. Dyma'r deunyddiau yn barod i fynd!




Ysgol Sul Maesyneuadd

18 Mawrth 2018
Cyfle heddiw i ddysgu beth yw Y Beibl a dysgu am y cenhadon aeth a Newyddion Da y Beibl i bobl Madagascar 200 mlynedd yn ol. Byddwn yn dysgu mwy am Apel Cymru Madagascar dros yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio cystadlu am Gwpan Denman yr Annibynwyr ym mis Ebrill gyda'r gwaith celf.  Dyma fwy o luniau teuluoedd wedi cyrraedd a hefyd breichledau cyfeillgarwch y dosbarth hyn.