Monday 24 September 2012

CLWB CHWARE TEG!

20fed Medi 2012 - tra bo'r bechgyn wedi bod yn brysur yn llenwi ffurflen gais am grant i drwsio beics mae'r merched wedi bod yn brysur hefyd.  Mae nhw'n trefnu DIWGYWDDIAD i ddathlu 200 mlwyddiant addoli yn Nhrefor!  Bydd nifer o weithgareddau yn digwydd - gwell i chi gadw mewn cysylltiad drwy'r blog i weld be sy'n digwydd!!

Wednesday 12 September 2012

CLWB CHWARE TEG!






12fed Medi 2012 - daeth y bechgyn ynghyd i roi'r paent gwyn ar y BMX! Mae'n datblygu'n feic newydd sbon.  Er mwyn cwblhau'r ffurflen gais ar gyfer ymweliad Nicola nos fory, roedd angen gweithio ar logo hefyd a dyma i chi ddetholiad o'r gwaith TMX - Trefor MX! Pa un sy'n cael eich pleidlais chi?  Diolch i Lowri am ddod i ganol yr hogiau ac am helpu gyda'r logos.

CLWB GWAU


11eg Medi 2012 - croesawyd pawb yn ol wedi gwyliau'r haf a braf oedd cael cyfarfod gyda'n gilydd yn y festri ar ei newydd wedd!  Roedd cryn dipyn o waith wedi ei gyflawni dros yr haf, er budd y ddwy uned gofal dwys ond hefyd, ar gyfer prosiect arbennig.  Mae'r merched wedi bod yn cefnogi prosiect yn Mali - Fish and Chip Babies ac wedi gwau 164 o siwtiau ar gyfer babis newydd gael teithio adre o'r ysbyty.  Siwtiau lliwgar iawn i arbed cael eu hanfod adre mewn papur newydd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.  Croeso i chi ymuno gyda ni - bob prynhawn dydd Llun cyntaf yn y mis rhwng 2 a 4 o'r gloch.  Croesawyd Ben, Catrin ac Allan o'r Ysgol atob i ddysgu gwau.

Monday 10 September 2012

CLWB CHWARE TEG!





7fed Medi 2012 - dyma rai o'r aelodau yn mwynhau trip i Rhyl.  Aethom i ymweld a Parc BMX Marsh Road.  Roedd yn ddiwrnod hynnod braf ac roedd hynny'n gwneud y beicio yn anodd iawn yn y gwres.  Ond buan iawn aeth dwy awr ac roedd hyder gwneud campau yn codi wrth fynd ymlaen!

CLWB CHWARE TEG!

6ed Medi 2012 - daeth Nicola atom er mwyn llenwi ffurflen gais gyda Llwyddo'n Lleol.  Rydym am geisio grant i helpu gyda atgyweirio'r beics a hefyd mae'r merched yn cynllunio Digwyddiad, i ddathlu 200 mlwyddiant achos yr Anibynnwyr yn Nhrefor.