Friday 26 June 2009

BORE COFFI - Elusen Ysgol yr Eifl 2009


Roedd Bore Coffi 25ain Mehefin yn cefnogi elusen penodedig Ysgol yr Eifl eleni sef Cwn Tywys i'r Deillion. Cafwyd cyflwyniad grymus gan yr Ysgol oedd yn ein arwain i gefnogi elusen bwysig iawn yng Nghymru. Gwnaed casgliad o £34 tuag at gronfa'r Ysgol i'r elusen. Yn ystod y Bore Coffi roedd cyfle i ddymuno'n dda i'r disgyblion ym mlwyddyn 6 sydd yn gadael Ysgol yr Eifl eleni ac yn mynd i Ysgol Glan y Mor ym mis Medi. Cyflwynwyd bob un gyda llyfryn 'Y Cam Nesa' gan y Grwp Cefnogi a hefyd dymunwyd yn dda i Mrs Rhian Harris sydd yn gadael staff athrawon Ysgol yr Eifl eleni, ar ol 21ain o wasanaeth i'r Ysgol.

EDRYCH AR NICARAGUA





Nos Lun 22ain Mehefin fe fu Llinos yn adrodd ychydig o hanes ei thaith i Nicaragua nol ym mis Chwefror 2009. Cafwyd hanes rhai o Undebau Hawliau Merched y wlad, hanes ail-adeiladu ym mhentref Tuara wedi Corwynt Felix, hanes plant sy'n byw ar domen ysbwriel La Chureca a hanes mamau ifanc mewn ty geni arbennig yn Matagalpa. Diolch i Clwb Chware Teg! am baratoi diodydd ysgafn y Caribi ar ddiwedd y sgwrs. Gwnaed casgliad ar y noson o £33 tuag at brosiect arbennig sydd yn cael ei ariannu gan Ymgyrch Nicaragua Cymru. Cronfa i gefnogi gwaith gyda plant y domen 'sbwriel.

Saturday 20 June 2009

APEL - Clwb Hwyl a Sbri

Be hoffet ti wneud ar ol gadael yr Ysgol? Athrawes, Peilot, Gwarchodwr Sw, Darllen y tywydd?
Dyma rai o ddymuniadau plant Clwb Hwyl a Sbri. Bu'r Clwb yn edrych ar hanes Guljan sydd yn 9 oed ac yn byw yn Affganistan a a pham mor bwysig yw darllen iddi hi ac i ni. Mae hi newydd gael mynd i'r ysgol am y tro cyntaf ac yn mwynhau darllen yn fawr iawn. Apel Clwb Hwyl a Sbri eleni yw casglu llyfr mae nhw wedi mwynhau ei ddarllen a'i gyflwyno i ward plant Ysbyty Gwynedd.

TRIP - CLWB HWYL A SBRI






Mehefin 17 - noson trip Clwb Hwyl a Sbri - eleni fe aeth 20 o blant i'r Hwylfan yng Nghaernarfon. Cafwyd hwyl fawr yno a bwyd ar y ffordd adre. Bydd Clwb Hwyl a Sbri yn ail gyfarfod yn yr Hydref.

YSGOL YR EIFL - EDRYCH AR NICARAGUA




Mehefin 17 - cyflwyniad i blant Ysgol yr Eifl ar daith Llinos i Nicaragua. Cyn i Llinos fynd i Nicaragua bu plant Ysgol yr Eifl yn dysgu am y wlad, yn meddwl am y pethau sydd yn wahanol a'r pethau sydd yn debyg wrth fyw yn Nicaragua a Chymru. Casglwyd yr holl wybodaeth er mwyn i Llinos ddod yn ol i'r Ysgol gyda'r atebion. Roedd tudalen gyfa o gwestiynnau a dydd Mercher fe gafwyd yr atebion drwy gyflwyniad lluniau. Cafwyd cyfle i flasu bwyd Nicaragua, gwisgo ambell ddilledyn a gwrando ar gerddoriaeth.

CLWB HWYL A SBRI Chwaraeon




Mehefin 3ydd - cafwyd noson hynnod o braf ar gyfer noson Chwaraeon Clwb Hwyl a Sbri. Daeth Catrin o'r Urdd atom gyda nifer o gemau ond criced oedd y gorau!