Sunday 6 June 2010

BORE COFFI


Cynhaliwyd Bore Coffi mis Mai, dydd Iau 27ain yng nghwmni Dosbarth Babanod Ysgol yr Eifl. Roedd yn achlysur cyffrous i'r Babanod ac i ninnau gan mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddod i'r Bore Coffi a chael gwneud cyflwyniad heb y plant iau! Cawsom ein tywys o amgylch y pentref i dai pob un o'r plant a pha mor bwysig yw'r teulu. Addurnwyd yr adeilad gyda lluniau lliwgar iawn o dai pob un o'r plant. Da iawn chi!