Wednesday 25 November 2015

Hwyl a Sbri Ysgol Sul

22ain Tachwedd 2015 - diwrnod parti Hwyl a Sbri.  Gemau a cwis Nadolig.  Bydd Hwyl a Sbri yn ail ddechrau yn fuan yn 2016. Bydd croeso mawr i ti a dy ffrindiau yn Maesyneuadd - rhaglen ar gael yn fuan.
 
 



Monday 9 November 2015

Diolchgarwch - Hwyl a Sbri

8fed Tachwedd 2015 - cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch gyda chyfle i weld cartwn y plant, roedd cyfle i lenwi bocsys sgidiau Nadolig a phaned a chacen i bawb. Ydych chi'n nabod y bobl yn y cartwn?

BORE COFFI

7fed Tachwedd 2015 - cynhaliwyd Bore Coffi er mwyn arddangos casgliad o luniau pensil gan bobl ifanc o Gaza.  Mae'r lluniau yn dwyn y teitl Through young eyes yn waith gan bobl ifanc sydd yn byw yn Gaza gan gyfleu i yr anhawsterau, y creithiau, y tristwch a'r difrod yn eu bywydau.



Wednesday 4 November 2015

HWYL A SBRI Ysgol Sul

25ain Hydref 2015 - parhau gyda thema Diolchgarwch gan edrych ar dyfu bwyd yn Mali.  Er bod sychder mawr yn Mali mae'r pentrefwyr yn llwyddo gyda help, gwaith caled a meddwl clyfar i dyfu bwyd.  Mae nionod yn tyfu'n dda mewn rhai o ardaloedd yn Mali ac fe gawsom dipyn o'r hanes gyda lluniau yn yr Ysgol Sul heddiw.





Thursday 22 October 2015

HWYL A SBRI YSGOL SUL

18fed Hydref 2015 - dyma gyfnod y Diolchgarwch. Byddwn yn edrych ar adnodau o'r Beibl dros yr wythnosau nesaf ac yn diolch am holl ffrwythau'r ddaear.




Thursday 18 June 2015

NEWID HINSAWDD

17eg Mehefin 2015 - Roedd cyfle yn Llundain yn ddiweddar i lobio Aelodau Seneddol ar draws Prydain.  Derbyn eu cadarnhad y byddant yn gwneud gymaint ac y gallan nhw i gefnogi polisiau sydd yn gwarchod y blaned ar gyfer y dyfodol.  Roedd Hwyl a Sbri wedi gwneud bynting lliwgar i'w gyflwyno i Aelod Seneddol Dwyfor.  Dymo fo ac yn y llun rydym wedi ymuno gyda pobl ifanc o Eglwys Noddfa Caernarfon.  Yn y llun mae Hywel Williams, Arfon; Liz Saville-Roberts, Dwyfor Meirionnydd a Jonathan Edwards, Plaid Cymru.  Da iawn chi blant!

HWYL A SBRI

14eg Mehefin 2015 - diwrnod trip Hwyl a Sbri i Pili Palas! Aeth 35 i Pili Palas.  Cafwyd hwyl yn gwylio'r pili pala a'r holl anifeiliaid eraill.  Roedd digon o gyfle i chwarae yn yr ystafell feddal ac ar y castell gwynt! Cinio blasus a gwario yn y siop. Welwn ni chi yn yr Hydref! Diolch am bob cefnogaeth dros y flwyddyn.




Monday 18 May 2015

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

17eg Mai 2015 - cafwyd hot dogs wrth  ni feddwl am eiriau o'r Beibl yn dechrau gyda G.  Thema'r dydd oed Gwaith a Gorffwys. Mae heddiw yn ddiwedd tymor yr Ysgol Sul a byddwn yn ail ddechrau ym mis Medi.  Felly ar ol yr holl waith caled gallwn orffwys dros yr haf.  Dyna pam ein bod wedi creu poster lliwgar i hysbysebu trip Hwyl a Sbri i Pili Palas.  Unwaith y byddwn wedi cael dyddiad fe fydd poster lliwgar yn dod drwy'r drws er mwyn i ni gael mynd i Sir Fon!!

Monday 11 May 2015

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

3ydd Mai 2015 - dechreuwyd greu bynting ar gyfer rali Newid Hinsawdd yn Llundain 17 Mehefin.  Mae'r bynting yn dangos anifeiliad, pysgod, adar a blodau ac yn gofyn i'r Llywodraeth newydd wneud eu gorau i warchod beth sy'n bwysig i ni!



HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

2il Mai 2015 - cynhaliwyd Bore Coffi er budd y Clwb Hwyl a Sbri, gan obeithio y cawn drip arbennig i Pili Palas yn yr haf.  Roedd digon yn digwydd - byrddau gwerthu, te a chacen.  Addurnwyd y festri gyda gwaith celf y plant. Agorwyd y Bore Coffi gyda'r plant yn canu, darllen salm a gweddi.  Gwnaed elw o £88.  Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi.


Monday 6 April 2015

HWYL A SBRI

5ed Ebrill 2015 - gwahoddir y gynulleidfa i helpu plant Hwyl a Sbri roi newid man yn y fuwch! Eleni mae Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar Ethiopia yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol ym mis Mai.  Mae bod yn berchen ar fuwch mewn rhai cymunedau yn Ethiopia yn golygu bwyd, ysgol a statws yn y gymuned.  Mae hefyd yn medru arbed i ferched ifanc gael eu gorfodi i briodi yn ifanc, mewn cyfnewid am anifeiliaid fel gwartheg a defaid. Pan fydd y fuwch yn cael llo bach, yna mae teuluoedd yn medru helpu ei gilydd drwy roi llo i deulu arall.  Fedrwch chi helpu pan fyddwch yn ymweld a'r festri? Diolch yn fawr.

Wednesday 25 March 2015

HWYL A SBRI

22 Mawrth 2015 - heddiw bu'm yn dysgu am hanes Iesu yn dod i mewn i Jerusalem. Hosanna! Hosanna. Brenin nef. Arglwydd nef a daear. Mab Duw!

Sunday 8 March 2015

HWYL A SBRI

8fed Mawrth 2015 - edrych heddiw ar weddi'r Arglwydd, yr un ddysgodd Iesu Grist i ni. Bu i ni hefyd drafod ein hoff le i fynd i gael tawelwch a llonydd o dro i dro, yn union fel Iesu yn mynd i'r ardd i gael llonydd i weddio ar Dduw.  Wedi astudio gweddi'r Arglwydd dyma bosteri Dilyn Iesu.




Sunday 1 March 2015

HWYL A SBRI

1af Mawrth 2015 - cewch weld llawer planed hardd yn y festri ar y funud. Rydym i gyd wedi gwneud daear ar gyfer hongian adre. Byddant yn lliwgar iawn wedi i ni ddarfod y gwaith.  Cawsom heddiw wasanaeth ar Dewi Sant a hefyd William Morgan am roddi i ni Feibl Cymraeg.





HWYL A SBRI

1af Chwefror 2015 - dyma'n balwns yn barod i greu ein daear.

Friday 6 February 2015

HWYL A SBRI

25ain Ionawr 2015 - rydym yn edrych ar greadigaeth Duw ac yn dathlu adar wythnos yma.  Dyma botiau bwyd i roi yn ein gerddi ar gyfer yr adar bach.

Bu rhai o aelodau Hwyl a Sbri yn helpu I gynnal gwasanaeth yn yr Ysgol bore Llun 2il Chwefror.

Monday 12 January 2015

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

11eg Ionawr 2015 - cawsom wasanaeth ar ddechrau'r sesiwn i ddiolch am ein gwasanaethau brys ac am ysbytai sydd yn ein cymunedau.  Gwelwyd nad yw hi mor hawdd cyrraedd ysbyty mewn gwledydd megis Kenya a Malawi.  Cawn ein cludo yng Nghymru i'r ysbyty mewn ambiwlans neu gar neu mewn hofrennydd.  Yn Kenya fe fyddech yn fwy tebygol o fynd ar y bws, ar fotobeic neu gerdded.  Darllenwyd eto stori Mair a Joseff yn teithio o Nasareth i Fethlehem (tua 180 milltir).  Heddiw mae marched beichiog yn parhau i deithio'n bell i weld meddyg neu nyrs.  Agorwyd ein bocsys casgliad ar gyfer Apel Nadolig Cymorth Cristnogol ac ar ol i bawb gyfri'r arian ym mhob bocs roedd gennym £140! Ac mae'r Llywodraeth yn dyblui pob £1 felly mae'n troi yn £280!!

Da iawn chi.