Friday 26 March 2010

CLWB CHWARE TEG!

25 Mawrth cawsom gemau allan o lyfr Storiau Duw. Edrych ar gyfiawnder a maddeuant Duw drwy stori'r plau yn yr Aifft. Bu gemau cardiau, pel ac actio. Roedd y sgetsys yn llwyddiannus iawn gan ddangos i ni bod Duw yn rhoi llawer mwy nag un cyfle i ni wella'n ffyrdd a derbyn maddeuant.

CLWB HWYL A SBRI






Cynhaliwyd Oedfa Masnachdeg ar gyfer y teulu, nos Fercher 24ain Mawrth. Roedd y plant wrthi'n brysur ers 5 o'r gloch yn addurno cacennau gyda siocled Masnachdeg yn barod ar gyfer paned cymunedol ar ol y gwasanaeth. Roedd hefyd siocled Masnachdeg yn y ffynnon siocled, a oedd, erbyn diwedd y cyfarfod yn wag wrth gwrs!! Fe gafodd y plant hwyl yn dysgu symudiadau i'r gynulleidfa wrth ganu 'Pwy Wnaeth y Ser Uwchben'.

BANER Y CREAD


Mae'r gwaith o osod yr holl ddarnau grewyd ar gyfer y faner yn mynd o nerth i nerth, ac mae Hazel Carpenter yn brysur gwblhau'r cyfanwaith. Mae cyfraniadau gan blant Ysgol yr Eifl, Gwyl Pin Dwr, y Clwb Gwau a Chlwb Chware Teg! Edrychwn ymlaen am ddadorchuddiad swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Thursday 11 March 2010

CLWB CHWARE TEG!


Diolch i Ben Gregory am ddod atom heno (11.02.10). Cawsom weithdy diddorol iawn ar Ddatrys Gwrthdaro gan edrych ar sefyllfaoedd personol, lleol a rhyngwladol yn eu tro. Diolch hefyd i Miriam am drefnu cwis logos i gloi y noson.

CLWB HWYL A SBRI





Bu'r plant yn dysgu am Y Ddafad Golledig heno. Roedd ymwelydd i'r Clwb yn ystod y noson - daeth Hywel ac Anti Eirian gyda dafad ac oen am dro i weld y plant. Roedd yna hen gyffroi o weld rhain! Gwnaeth pawb ddafad i fynd adre.

Thursday 4 March 2010

CLWB HWYL A SBRI

Pethau Pwysig!
Yn y Clwb heno (3ydd Mawrth) roedd cyfle i bawb ddod a hoff beth gyda nhw. Yna bob yn un roedd cyfle i ddisgrifio'r hoff beth ac i dderbyn cwestiynnau gan ffrindiau am yr eitemau. Roedd pawb wedi dod a phethau diddorol iawn ac wedi sefyll yn hyderus o flaen pawb i siarad am y pethau hynny. Wedi i ni drafod yr eitemau cawsom weld llun o Anish sy'n byw yn Kolkatta yn yr India. Mae yn byw mewn ardal dlawd iawn ac yn cael mynd i'r ysgol yn y bore mewn canolfan arbennig ger ei gartref. Does gan Anish ddim gymaint o bethau o'i gwmpas ond mae ganddo deulu, bwyd, dwr glan ac ysgol sydd yn bwysig iddo. Roedd plant Clwb Hwyl a Sbri yn credu bod yn iawn i blant ym mhob man fedru mwynhau pob math o bethau fel eu gilydd.
Roedd Mari, Mared, Ella, Catrin a Lowri wedi dod a thegannau meddal, ac roedd Lowri yn gwisgo ei hoff ddillad bale.
Skate Board roedd Owain Hedd yn hoffi fwyaf.
Daeth Liam a'i lyfr sticeri pel-droed i ddangos i ni, a chyfrif hyd at 93 o sticeri ynddo yn barod!
Roedd Elliw wedi cludo llewpart du yr un maint a soffa i'r Clwb a Gwenno wedi dod a lluniau o ymweliad y teulu a Disneyland.
Oriawr arbennig yn goleuo'r wal oedd gan Tomos a bws mawr gwyn oedd gan Osian.
Daeth Alaw gyda eitemau roedd hi wedi ddarganfod ar ei ffordd i'r Clwb megis brigyn a Transformer oedd gan Ben.
Da iawn bawb!