Thursday 31 May 2012

HWYL A SBRI

31 Mai 2012 - dyma Elliw, Lauren ac Allan yn ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Bore dydd Sul Eisteddfod yr Urdd eleni.  Fedrwch chi ffeindio nhw?

Wednesday 30 May 2012

HWYL A SBRI

30 Mai 2012 - ymarfer ola heno cyn mynd i ymarfer ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd nos fory yn Glynllifon.  Da iawn chi blant am ddysgu eich gwaith mor dda.

DECHRAU DA!




30 Mai 2012 - Thema newydd i Dechrau Da! ar gyfer yr wythnosau nesa sef Yr Haf - Y Mor - Y Traeth.  Gobeithio y cawn ni ddigon o dywydd braf i fynd i'r traeth! Cawsom groesawu Cynan atom heddiw sef brawd bach Cara.  Addurno Pili Pala fu'r plant heddiw a dyma nhw.

BORE COFFI


24 Mai 2012 - cynhaliwyd Bore Coffi cymunedol gyda plant Ysgol yr Eifl yn ymuno gyda ni a chyflwyno Neges Heddwch yr Urdd a hanes i gefndir y Gemau Olymiaidd.  Diolch i bawb am gefnogi ac i'r plant a'r athrawon am eu gwaith.

HWYL A SBRI

23 Mai 2012 - ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.  Mae bws wedi ei drefnu ar gyfer unrhyw un o Drefor sydd eisiau ymuno gyda ni ar gyfer Gwasanaeth Bore Sul yr Eisteddfod.  Cychwyn o Bron Hendre am 8.30 bore dydd Sul 3ydd Mehefin.  Dewch a picnic.

Wednesday 23 May 2012

DECHRAU DA!


23ain Mai 2012 - cynhaliwyd Dechrau Da ar y traeth yn Nhrefor heddiw i gefnogi Eisteddfod yr Urdd Eryri.  Daeth nifer i fwynhau chwarae yn y tywod a chael hwyl yn adeiladu castell.

Sunday 20 May 2012

HWYL A SBRI EISTEDDFOD YR URDD

20fed Mai 2012 - wedi i'r plant fod yn ymarfer bob nos Fercher, daeth yr amser i gael yr ymarfer cyntaf gyda holl Ysgolion Sul eraill ardal Eisteddfod yr Urdd Eryri.  Aethom i Theatr Seilo yn Caernarfon a chael hwyl dda arni yn canu Can Plant y Byd ac Os Wyt Ddu neu Os Wyt Wyn.  Mae edrych ymlaen mawr at yr ymarfer nesa fydd ar lwyfan y Pafiliwn yn Glynllifon.

Thursday 17 May 2012

SGWRS A SGRAM

17eg Mai 2012 - Daeth 16 ynghyd heddiw i fwynhau cinio Sul ardderchog wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl.  Croesawyd atom Fred a Jo o RSVP Cymru, Branwen o Cymorth Cristnogol.  Gwennan Gibbard fu'n diddanu heddiw.  Cawsom wledd o alawon Cymreig ganddi.  GwnaedcCasgliad ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol.  Bydd y cyfarfod nesa dydd Iau 21ain Mehefin.

HWYL A SBRI

16eg Mai 2012 - cynhaliwyd gweithgaredd ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol - golchi beics!  Mae'r tywydd yn gwella ac mae'r nosweithiau'n ymestyn - amser da i gael y beic allan.  Ond, mae'n bwysig bod y beic yn saff.  Yng ngardd Llinos cynhaliwyd golchfa beics i'r plant.  Roedd Emlyn a Robat wrth law i roi olew ar y gadwyn a rhoi gwynt yn y teiars.  Beiciwch yn saff!

DECHRAU DA!


16eg Mai 2012 - Pobl yw thema mis Mai.  Beth mae pobl yn wisgo ar eu pen, wel het siwr iawn.  Fe gafodd Martha, Kiberley a Sion hwyl dda iawn heddiw yn gwneud het smart!  Da iawn chi.

OEDFA CYMORTH CRISTNOGOL

13eg Mai 2012 - Cynhaliwyd gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol yn Maesyneuadd.  Thema eleni yw Sierra Leone a dangoswyd ffilm Llinos - O Gymru i Sierra Leone.  Yn dilyn y gwasanaeth cawsom gyfle i fwynhau dau gawl Affricanaidd blasus iawn!  Diolch i Sian am baratoi'r cawl ac i bawb am gymryd rhan.

Wednesday 9 May 2012

DECHRAU DA

9fed Mai 2012
Parhau gyda'n thema pobl heddiw.  Roedd y plant yn gwneud ffram llun heddiw er mwyn arddangos eu ffotograff gorau ar y wal adre!  Gwaith da iawn Martha, Begw a Kimberley.

CLWB GWAU

8fed Mai 2012
Mae'r plant yn brysur waeu eu cas ipod lliwgar ac mae nifer fawr o eitemau yn barod i'w dosbarthu i'r Ysbytai. Diolch yn fawr iawn i bawb.

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

7fed Mai 2012
Daeth y grwp ynghyd i wneud trefniadau ar gyfer Oedfa Cymorth Cristnogol fydd yn cael ei chynnal nos Sul 13eg Mai 2012.  Y thema eleni yw Sierra Leone ac fe fydd ffilm o daith Llinos yn cael ei dangos yn ystod y gwasanaeth.

YSGOL YR EIFL

3ydd Mai 2012
Mae Duw wrth ei fodd yn gweld pobl yn derbyn a rhoi llawennydd oedd thema Gwasanaeth y Mis heddiw.  Llongyfarchwyd y plant a'r athrawon ar lwyddiant ysgubol sioe Canrif ar y Lon.  Cyflwynwyd llun wedi ei greu gan y plant yng Ngwyl Pin Dwr i'r athrawon i addurno'r ystafell athrawon ar ei newydd wedd.

HWYL A SBRI

2il Mai 2012
Rydym wedi dechrau dysgu'r ddwy gan fydd angen ar gyfer Gwasanaeth Bore Sul Eisteddfod yr Urdd Eryri.

DECHRAU DA

2il Mai 2012


Daeth Margaret Ellis atom heddiw i ddweud stori Hiwi y hwyaden gyda'r esgidiau glaw coch!  Roedd y plant wedi mwynhau cael stori'n fawr iawn.  Gwariwyd gweddill yr amser yn lliwio llun o Hiwi!

OEDFA

22ain Ebrill 2012
Cynhaliwyd Oedfa Hyder mewn Gweddi a roddwyd gyda'i gilydd gan y Grwp Arwain Addoliad.

SGWRS A SGRAM

20 Ebrill 2012 - daeth nifer ynghyd i gael cinio yn y Festri heddiw i'n cyfarfodydd Sgwrs a Sgram.  Y siaradwr gwadd oedd Emrys Jones.  Cawsom ein tywys drwy strydoedd Caernarfon ar daith gerdded heb godi o'n seti! Cafwyd sgwrs a cwis diddorol iawn!

SGWRS A SGRAM

20fed Ebrill 2012
Daeth nifer ynghyd eto heddiw i fwynhau cinio wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl - cinio Sul blasus iawn.  I'n diddori ni a'r ol cinio cawsom gwmni Emrys Jones i'n tywys am dro ar hyd strydoedd Caernarfon, heb i ni godi o'n seddau!  Diweddwyd gyda cwis!  Prynhawn difyr iawn.  Bydd y cyfarfod nesa dydd Iau 17eg Mai 2012.