Thursday, 15 November 2012
CLWB CHWARE TEG!
15fed Tachwedd 2012 - Oes yna Dduw? dyna oedd sesiwn dysgu heno. Roedd tri safle yn y festri Lle Tawel, Lle Meddwl a Lle Creu. Roedd lle meddwl yn cynnig cyfres o luniau yn ac yn gofyn "beth mae'r lluniau yn ddweud wrthych chi am Dduw"? Roedd lle tawel yn gofyn i ni ystyried ffordd mae Duw wedi gwneud pawb yn wahanol a hefyd sut ydym yn dangos cariad Duw o fewn y teulu. Yn y lle creu roedd cyfle i wneud eitem oedd yn adlewyrchu ein cymeriad ni - "beth mae'r eitem yn ddweud amdanat ti"? Dyma eitemau Michaela, Gwenno a Natalie (o'r chwith i'r dde).
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment