Tuesday, 24 July 2012
PERERINDOD I'R BALA
22ain Gorffennaf 2012 - gwahoddwyd ni i fynd ar bererindod i'r Bala gyda'n ffrindiau o Eglwys Noddfa Caernarfon. Roedd y bws yn llawn a chafwyd siwrne braf iawn i'r Bala. Ein ymweliad cyntaf oedd Capel Tegid ble roedd Mari Jones (Siwan Llynor) yn aros amdanom i adrodd ei hanes yn cael ei Beibl cyntaf. Yn dilyn hyn cafwyd picnic mewn haul bendigedig ar lan Llyn Tegid. Mentrodd ambell un i'r dwr! Cafwyd seibiant, paned a chacen yng Ngholeg y Bala tra bod y plant yn cael gemau gyda'r staff yno. Cyn i ni droi am adre cynhaliwyd gwasanaeth gan Mererid Mair. Ar y ffordd adre fe gafwyd chips yn Porthmadog. Diolch yn fawr iawn i Eglwys Noddfa am drefu diwrnod braf iawn.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment