BORE COFFI
Fore Dydd Iau, 1af Gorffennaf, cynhaliwyd Bore Coffi yn Ysgol yr Eifl ac roedd y lle yn llawn. Cafwyd eitemau gan y plant yn son am yr hyn roeddynt wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn gyda slideshow yn dangos lluniau o'u gweithgareddau. Ar ddiwedd cyflwyniad y plant, cyflwynodd Mr Larsen eiriadur a chopi o lyfr Geraint Jones, Yr Hen Sgwl, i blant Blwyddyn Chwech i ddymuno'n dda iddynt ar ddiwedd eu cyfnod yn Ysgol yr Eifl.
Yna, dadorchuddiwyd murlun a wnaeth y plant gyda'r artist Cefyn Burgess. Roedd y murlun yn cynnwys lluniau o eglwys a thri chapel Trefor a syfrdanwyd pawb gan ei safon uchel.
Bu'r bore yn llwyddiant mawr a llwyddwyd i godi £35 ychwanegol tuag at elusen ddewisiedig Ysgol yr Eifl, sef CLIC (Cancer and Leukemia in Children).
POB HWYL I'R LLEWOD!
Pob lwc i'r collage y bu Clwb Hwyl a Sbri yn gweithio arno oedd yn dangos Daniel yn Ffau'r Llewod. Bydd y collage yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth gan Undeb yr Annibynwyr wythnos nesa.
PERERINDOD
Bydd Pererindod i ardal Pen Llyn gan gynnwys ymweliad ag Eglwys Penllech (i'w gweld yn y llun) ddydd Sul yr 8fed o Awst. Manylion pellach i ddilyn.
CLWB GWAU
Mae'r Clwb Gwau yn dal wrthi'n brysur a dywedodd Ysbyty Gwynedd eu bod yn dibynnu ar Drefor am gyflenwad o ddillad ar gyfer babanod oedd yn cael eu geni cyn amser, ac mae cartrefi henoedd yr ardal yn ddiolchgar iawn am flancedi penglin lliwgar.
Os oes gennych awydd helpu, dewch i Maesyneuadd am 2 o'r gloch unrhyw ddydd Llun cyntaf y mis ac ymuno â ni.
Rydym wrth ein bodd yn cael cwmpeini Blwyddyn 6, ac yn ymfalchio bod eu gwau yn gwella'n enbyd rhwng Mis Medi a Mis Mehefin bob blwyddyn. Daliwch ati wedi cyrraedd Glan y Môr!
No comments:
Post a Comment