Dydd Sul 12fed Gorffennaf trefnwyd Pererindod ar y cyd gyda Eglwys Noddfa Caernarfon. Roedd y cwmni a'r tywydd yn fendigedig a chafwyd prynhawn cyfa wrth fodd pawb. Prynhawn prysur yn ymweld, yn ymlacio ac yn addoli. Ymwelwyd yn gyntaf a Ffynnon Cybi a chafwyd ychydig o hanes y ffynnon gan Dawi Griffiths wrth i ni eistedd ger yr adfeilion. Aethom ymlaen wedyn i Penarth Fawr, ty canoloesol a chael eto ryfeddu at harddwch y safle hwn. Ymlacio wedyn dros baned yn yr haul yn Glasfryn tra roedd y plant yn chwarae gem Bowlio 10 cyn dod yn ol i Maesyneuadd a chael oedfa hwyliog a chartrefol iawn yng nghwmni aelodau o'r ddwy eglwys. Cyn i Eglwys Noddfa gychwyn am adre mwynhawyd paned a chacen cyn ffarwelio.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment