Friday, 8 May 2009

CLWB HWYL A SBRI CYMORTH CRISTNOGOL


Ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol cawsom gyfle i gyfarfod a gwr arbennig iawn sef James o Kenya. Mae James yn gweithio gyda un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Kenya. Daeth a lluniau gyda fo am fywyd plant sydd yn byw yn ei bentref genedigol. Roedd yn braf iawn gweld plant Clwb Hwyl a Sbri yn gwrando yn astud ac yn holi James am fywyd yn Kenya. Mae prinder dwr glan yn broblem fawr iawn yn y wlad, a gwaith merched ifanc yw nol dwr i'r ty bob dydd - gall hyn gymryd hyd at ddwy awr o gerdded! Gwaith y bechgyn yw gwarchad y geifr ar y mynyddoedd a gall hyn olygu hyd at dri mis i ffwrdd o gartref, yn cysgu ar y mynyddoedd. Ond mae prinder dwr yn gwaethygu ar rhai adegau o'r flwyddyn nes bod ffynhonnau yn sychu - dyma pryd mae'r bobl yn dibynnu ar y tanc dwr i ymweld a'r pentref. Mae'r adegau yma yn bryderus iawn i'r bobl gyda rhai pobl yn llwgu. Does dim bwyd yn tyfu ar gyfer yr anifeiliaid chwaith. Ar ddiwedd y Clwb cafwyd cyfle i ysgrifennu neges ar faner sydd yn cael ei chyflwyno i Gordon Brown gan bobl ifanc Cymru!

No comments: