Tasg y Grawys (3)
Tuesday, 13 March 2018
Sunday, 11 March 2018
Ysgol Sul Maesyneuadd
11 Mawrth 2018
Tasg y Grawys yr wythnos diwethaf ac yn arwain at Sul y Mamau heddiw oedd gwneud llun eich teulu. Dyma luniau ardderchog. Roedd prysurdeb mawr heddiw i baratoi anrheg i mam, a dyma farc llyfrau'r dosbarth ieuenctid a bocs siocled y plant lleiaf!

Un o dasgau'r Grawys ar gyfer yr Ysgol Sul eleni oedd casglu dillad ar gyfer Ffoaduriaid (drwy law Mantell Gwynedd). Dyma gasgliad ardderchog o ddillad plant, ieuenctid ac oedolion wedi dod i law. Bydd y casgliad hwn ar agor hyd y Pasg, gyda chasgliadau arferol yn parhau drwy Eglwys Maesyneuadd wedi hynny. Diolch o galon i bawb am gyfrannu.

Monday, 5 March 2018
Oedfa Gwyl Dewi
4ydd Mawrth 2018 - cafwyd oedfa i ddathlu Gwyl Dewi dan ofal y Parchg Casi Jones. Derbyniwyd nifer fawr o eitemau o ddillad a tegannau ar gyfer Ffoaduriaid yn y gwasanaeth, hyn yn dilyn Tasg y Grawys 1. Tasg y Grawys 2 oedd cofnodi'r tywydd dros yr wythnos, a dyma adroddiadau Erin, Deio, Meinir a Begw.
Sunday, 25 February 2018
Ysgol Sul Maesyneuadd
25 Chwefror 2018
Diolch i Anti Margaret am adrodd hanes Iesu Grist yn dysgu'r disgyblion i weddio, a chyflwyno i ni heddiw Weddi'r Arglwydd. Llwyddwyd i roi Gweddi'r Arglwydd gyda'i gilydd yn gywir o fewn yr amser penodol.

18 Chwefror 2018
Hanes y Mab Afradlon gawsom heddiw ac ar ol astudio'r stori, fe gafwyd cyfle i atgoffa ein hunain o'r hanes mewn ffordd greadigol. Dyma waith Meinir, Aila, Deio a Ieuan. Aila gafodd y marciau uchaf am daflu bwyd i'r moch. Da iawn chi!

Subscribe to:
Posts (Atom)