22ain Hydref 2017 - hanes Daniel gawsom heddiw. Hanes Duw yn edrych ar ein holau pan fyddwn mewn ofn neu'n bryderus mewn sefyllfa anodd. Bu'r ddau ddosbarth yn edrych ar hanes Daniel yn cael ei arbed oddi wrth y llewod, gan iddo weddio ar Dduw. Dyma lewod y dosbarth hyn a gem llew y dosbarth iau.
Monday, 23 October 2017
Sunday, 15 October 2017
Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl
15fed Hydref 2017 - hanes Samuel gawsom heddiw yn gweithio yn y Deml yn helpu Eli. Mae stori Samuel yn ein dysgu i wrando ar Dduw, drwy ddarllen y Beibl, gweddio a gwrando ar y bobl sydd yn ein harwain o ddydd i ddydd. Roedd y tywydd yn ddigon cynnes i eistedd allan am gyfnod yn gwrando ar synau Trefor - clywyd swn y gwynt a swn adar. Bu'r dosbarth lleiaf yn trafod teulu a dyma gem setiau:
Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl
8fed Hydref 2017 - cawsom hanes Dafydd yn gorchfygu Goliath ac addewid nad oes dim yn rhy anodd i ni gyda Duw. Trowyd Goliath yn gem a sgoriodd y plant bach 55 pwynt yr in, a Llinos yn sgorio dim!
Ysgol Sul Maesyneuadd - Diolchgarwch
1af Hydref 2017 - cynhaliwyd oedfa deulu Diolchgarwch dan ofal Casi Jones.
Ysgol Sul Maesyneuadd - Trip
17 Medi 2017 - heddiw aethom at ein trip Ysgol Sul Gelli Gyffwrdd. Cafwyd llawer iawn o hwyl yn mynd ar bob sleid a reid. Roedd y plant ar oedolion yn mwynhau yn yr in modd!
Sunday, 16 July 2017
Ysgol Sul Hwyl a Sbri 16 Gorffennaf 2017
Y SAMARIAD TRUGAROG
Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho ...
... a dyma ladron yn ymosod arno.
Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc.
Dyma Offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.
A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.
Ond wedyn dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.
Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin.
Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. "Gofala amdano" meddai wrtho, "ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio".
Dywedodd Iesu "dos a gwna dithau yr un modd".

Monday, 10 July 2017
Ysgol Sul Hwyl a sbri
9fed Gorffennaf 2017 - cynhaliwyd Ysgol Sul heddiw ar y traeth gyda gemau yn dilyn stori Porthi'r 5000.
Gollyngwyd gweddiau o ddiolch i'r mor - Diolch i Ti am y byd. Diolch am ein bwyd bob dydd. Diolch am yr haul ar glaw. Diolch am bod rhodd a ddaw. Amen.
Gollyngwyd gweddiau o ddiolch i'r mor - Diolch i Ti am y byd. Diolch am ein bwyd bob dydd. Diolch am yr haul ar glaw. Diolch am bod rhodd a ddaw. Amen.
Subscribe to:
Posts (Atom)