12fed Mehefin 2013 - mae'r holl blant wedi sylwi ar y malwod sydd o gwmpas ac yn chwilfrydig iawn ynglyn a'r creaduriaid yma! Dyma falwod lliwgar Dechrau Da!
Wednesday, 12 June 2013
Wednesday, 5 June 2013
Dechrau Da!
5ed Mehefin 2013 - mae'r haf wedi cyrraedd Dechrau Da! gobeithio y cawn ni lawer i brynhawn ar lan y mor. Dyma furlun haf a pili palas Anest, Tomos, Cerys, Elis ac Owen. Aethom am baned a chacen i gaffi Trefor yn dilyn ein cyfarfod heddiw!
Tuesday, 4 June 2013
CLWB GWAU
3ydd Mehefin 2013 - rydym wedi bod yn cefnogi apel siwmperi chip shop babies ar gyfer plant yn Affrica. Mae ymhell dros 400 o'r siwmperi wedi mynd bellach o Glwb Gwau Trefor. Mae hynny yn swm ardderchog iawn - diolch i bawb sydd wedi gwau neu wedi cyfrannu gwlan. Mae'r clwb yn cyfarfod prynhawn dydd Llun cynta'r mis am 2 o'r gloch yn Festri Maesyneuadd. Byddwn yn mynd allan am de prynhawn ym mis Gorffennaf cyn diweddu dros yr haf ac ail ddechrau ym mis Medi. Croeso mawr i chi ymuno gyda ni.
CLWB CHWARE TEG!
28ain Mai 2013 - dyma waith Clwb Chware Teg! ar ymgyrch OS wedi cyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro. Da iawn chi!
Sunday, 2 June 2013
GWYL Y GWANWYN
30ain Mai 2013 - penllanw ein gwyl oedd cael mynd i'r Galeri i weld perfformiad gan gwmni Vamos o Finding Joy. Gwraig ddoniol yn hoffi dawnsio ydi Joy, ond mae hi'n colli ei chof. Mae ei hwyr yn aml iawn mewn trwbwl ac yn gwrthryfela gyda'r teulu. Ond yn ddi-rybudd ac er syndod i bawb mae Danny yn penderfynnu gofalu am ei nain. A'r hanes tyn yma gafwyd yn y perfformiad gyda paned a chacen gyda'r cast ar y diwedd. Diolch i Age Cymru am yr arian i gynnal Gwyl y Gwanwyn eleni.
Thursday, 23 May 2013
CLWB CHWARE TEG!
23ain Mai 2013 - dyma noson Y Digwyddiad wedi cyrraedd gan drefnu Noson Coffi. Yn ystod y noson cawsom weld ffilm o stori Maesyneuadd a hefyd yr un stori ond ar ffurf cartwn. Roedd Natalie a Peter wedi gwneud cacennau blasus, ac roedd bwrdd gwerthu. Diolchwyd i bawb am ddod i'r cyfarfod gan Gwenno a hefyd diolchwyd am gymorth Margaret Ellis i wneud y faner. Roedd awyrgylch braf yn y Noson Coffi ac edrychwn ymlaen yma am y 200 mlynedd nesa!
GWYL Y GWANWYN
23ain Mai 2013 - Sesiwn cerddorol heddiw yng nghwmni Gwenan Gibbard. Bu i ni gael datganiadau o hen ffefrynnau. Cael cyd ganu a hefyd cael cyd ganu Cerdd Dant! Roedd cyfle i gael tro ar y delyn. Wythnos nesa byddwn yn mynd i'r Galeri i weld sioe arbennig Finding Joy. Enwau i Llinos os oes diddordeb.
Subscribe to:
Posts (Atom)

















