Thursday, 18 August 2011
Monday, 11 July 2011
CLWB GWAU

11 Gorffennaf 2011 - aeth 12 ar y trip te blynyddol heddiw i Tarro Deg Pwllheli. Diolch i bawb am yr holl eitemau sydd wedi eu gwau dros y flwyddyn diwethaf. Mae Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Bryn Beryl, Cartref Penrhos, Cartref Bryn Meddyg ac Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn hynnod ddiolchgar o'r holl waith. Diolch yn fawr iawn. Bydd y Clwb yn ail-ddechrau ym mis Medi.OEDFA SIERRA LEONE
Saturday, 9 July 2011
CHWARE TEG!
6ed Gorffennaf 2011 - noson o edrych ar luniau doniol ein taith drwy Goed Elernion gawsom ni heno a hefyd cyfle i drafod nosweithiau posib i roi ar y rhaglen ym mis Medi.
DECHRAU DA!
Thursday, 30 June 2011
CLWB CHWARE TEG!


30 Mehefin 2011 - heno cawsom barhau gyda Gwobr John Muir gan fynd am dro i Goed Elernion. ARCHWYLIO - dyna oedd y dasg heno. Cawsom archwylio drwy gyfrwng ein synhwyrau. Teimlo'r mwd rhwng bysedd ein traed wrth gerdded yn droednoeth drwy gors! Arogli'r wernen wrth grwydro. Blasu suren y goedwig. Cael ein harwain gyda mwgwd at goeden ac yna ceisio darganfod yr un goeden heb y mwgwd. Eistedd mewn tawelwch gan nodi ar bapur pa synnau oedd o'n cwmpas. Roedd yn brofiad hyfryd iawn bod yng Nghoed Elernion ar noson mor braf. Diolch i Arwel am drefnu'r holl weithgareddau.
Subscribe to:
Posts (Atom)






