Monday, 11 July 2011

CLWB GWAU



11 Gorffennaf 2011 - aeth 12 ar y trip te blynyddol heddiw i Tarro Deg Pwllheli. Diolch i bawb am yr holl eitemau sydd wedi eu gwau dros y flwyddyn diwethaf. Mae Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Bryn Beryl, Cartref Penrhos, Cartref Bryn Meddyg ac Ysbyty Glan Clwyd wedi bod yn hynnod ddiolchgar o'r holl waith. Diolch yn fawr iawn. Bydd y Clwb yn ail-ddechrau ym mis Medi.

OEDFA SIERRA LEONE



10fed Gorffennaf 2011 - cafwyd cyfle i weld lluniau o daith Llinos i Sierra Leone yn ddiweddar ac i ddiolch i bawb am fod yn rhan mor allweddol o Wythnos Cymorth Cristnogol eleni. Gwnaed casgliad tuag at waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone.

Saturday, 9 July 2011

CHWARE TEG!

6ed Gorffennaf 2011 - noson o edrych ar luniau doniol ein taith drwy Goed Elernion gawsom ni heno a hefyd cyfle i drafod nosweithiau posib i roi ar y rhaglen ym mis Medi.

HWYL A SBRI





6ed Gorffennaf 2011 - cawsom dipyn o hwyl heno yn enwedig wrth i ni baentio gyda'n traed!! Lluniwyd poster enfawr yn annog cadw Trefor yn daclus. Diolch i Natalie am y syniad ac i'r holl blant am fod mor barod i gerdded drwy'r paent!

DECHRAU DA!



6ed Gorffennaf 2011 - diweddwyd y tymor gyda chyfarfod byrlymus. Rhoddwyd anrheg i bawb oedd yn cynnwys het haul i gadw'n saff dros yr haf i'r rhai hyn, a thegan i'r rhai iau. Edrychwn ymlaen i weld pawb yn ol ym mis Medi.

Thursday, 30 June 2011

CLWB CHWARE TEG!





30 Mehefin 2011 - heno cawsom barhau gyda Gwobr John Muir gan fynd am dro i Goed Elernion. ARCHWYLIO - dyna oedd y dasg heno. Cawsom archwylio drwy gyfrwng ein synhwyrau. Teimlo'r mwd rhwng bysedd ein traed wrth gerdded yn droednoeth drwy gors! Arogli'r wernen wrth grwydro. Blasu suren y goedwig. Cael ein harwain gyda mwgwd at goeden ac yna ceisio darganfod yr un goeden heb y mwgwd. Eistedd mewn tawelwch gan nodi ar bapur pa synnau oedd o'n cwmpas. Roedd yn brofiad hyfryd iawn bod yng Nghoed Elernion ar noson mor braf. Diolch i Arwel am drefnu'r holl weithgareddau.

Wednesday, 29 June 2011

DECHRAU DA!




29 Mehefin 2011 - roedd hi'n brysur iawn yn Dechrau Da heddiw gyda nifer fawr wedi dod i chwarae. Bu Cara, Elliw, Cerian, Aron, Tom, Leusa, Begw ac Erin yn brysur iawn yn gludo hefyd - roedden nhw wedi casglu broc, gwymon a chregyn ar lan y mor wythnos diwethaf, a heddiw yn creu llun gyda nhw! Roedd pawb wedi gwneud cwch i lenwi'r llun lliwgar.