Friday, 18 July 2008

Y CAM NESA'


Mae pob disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol yr Eifl wedi derbyn llyfr Y Cam Nesa' gan Grwp Cefnogi gwaith Llinos yn Nhrefor. Dymuniadau gorau i bawb dros wyliau'r haf ac i bob un sydd yn symud i Ysgol Glan y Mor, Pwllheli. Pob hwyl i chi gyd.

PARTI ROMANIA YSGOL YR EIFL




Cafwyd parti yn Ysgol yr Eifl i ddiolch i'r disgyblion am gasglu arian ar gyfer y daith i Romania. Dyma lun o Roberta yn adrodd yr hanes gan ddangos lluniau i'r disgyblion. Ar ol y cyflwyniad cafwyd bwyd yn cynnwys bisgedi lemwn a siocled Romanaidd, a dau relish i fwyta gyda creision, ryseit ddaeth o Romania gyda'r criw. Roedd pob dim yn flasus iawn, ac wrth i ni fwyta roedd yna gerddoriaeth Romanaidd yn y cefndir. Da iawn chi i gyd am yr holl waith caled.

Monday, 14 July 2008

CIPOLWG AR Y DAITH I ROMANIA








Dyma'r criw aeth i Romania. Diolch o galon i bawb fu'n cefnogi'r gwaith yn lleol cyn y daith ac am bob ffydd yn y fenter hon. Diolch hefyd i'r criw am eu holl ymroddiad i'r gwaith ac am wneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau plant a phobl ifanc llai ffodus na ni.


Cynnigwyd gweithgareddau hwyliog i'r plant yn cynnwys celf a chrefft, dawnsio gwerin, gemau parasiwt, gemau gwirion a llawer o amser, cyfeillgarwch a chariad.


Mae plant Popesti yn byw mewn ardal difreintiedig iawn yn Romania a diweithdra wedi arwain at broblemau cymdeithasol.


Roedd yr holl weithgareddau yn cymryd lle mewn Canolfan Gymdeithasol yn Popesti gyda'r Romanian Foundation for Children and Families yn cyflogi un person yn gyfrifol am y ganolfan o'r enw Prietenia sy'n golygu 'cyfeillgarwch'.


Nod gweithgareddau'r ganolfan yw cynnig lle saff i blant, gweithgareddau sydd yn tynnu plant y pentref a plant y Cartref Plant lleol at ei gilydd, cymorth gyda gwaith cartref a chyfeillgarwch.


Yn ystod yr wythnos cafodd 47 o blant y Cartref brofion llygaid ac roedd 19 angen sbectol.


Bydd cael sbectol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ac addysg y plant yma.

Thursday, 26 June 2008

CEFNOGI CRIW ROMANIA


Dyma gynrychiolaeth disgyblion Ysgol yr Eifl yn cyflwyno £65 i Roberta a Dafydd, sydd yn mynd i Romania ar yr 2il Gorffennaf. Bu plant yr Ysgol yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn casglu darnau 1c a 2c, er mwyn gorchuddio map o Romania. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw am godi £65! Edrychwn ymlaen i ddod i rannu'r profiad gyda chi yn yr Ysgol yn fuan!

CYNGERDD DAFYDD IWAN






Nos Fercher 25ain Mehefin mwynhawyd noson o gan yn Y Ganolfan yng nghwmni:
Adran yr Urdd Ysgol yr Eifl
Aelwyd Gwrtheyrn a
Dafydd Iwan
Wedi gwisgo yneu pajamas, eu slipars ac yn gafael mewn tedi bob un, roedd cyflwyniad Adran yr Urdd o Nos Da yn fedli hyfryd ar hwyangerddi poblogaidd. Cawsom hefyd ddwy gan rymus iawn gan Aelwyd Gwrtheyrn, sef Dringo fyny'r Mynydd a Yn fy mreuddwyd brau. Diolch yn fawr iawn eich cefnogaeth. Dafydd Iwan fu'n diddanu wedyn hyd ddiwedd y cyngerdd, a chawsom amser hwyliog iawn a chyfle i ymuno mewn ambell gan! Diweddwyd y noson gyda Adran yr Urdd ac Aelwyd yr Urdd yn ymuno gyda Dafydd Iwan ar y llwyfan i ganu Yma o hyd!



Diolch i bawb am gefnogi'r noson oedd yn mynd tuag at waith y bobl ifanc yn Romania.

Friday, 13 June 2008

ARDDANGOSFA FFOTOGRAFFYDD JOHN KEANE




Ffotograffydd / Arlunydd yw John Keane. Bu yn Angola ar wahoddiad Cymorth Cristnogol i gofnodi storiau a profiadau y plant dros gyfnod y rhyfel cartref yno a barodd 40 o flynyddoedd. Mae Angola wedi profi heddwch bellach ers 2007. Mae hanner y boblogaeth y wlad dan 16 oed. Mae'r plant yma yn ceisio dygymod a'u gorffennol, yn ogystal a dechrau o'r newydd gyda pob agwedd o fywyd. Mae'r wlad yn ceisio ail-adeiladu yn emosiynol ac yn ddatblygol o ran ysgolion, clinigau iechyd a chlurio ffrwydron i ad-ennill tir. Roedd cyfle i bobl Trefor gael gweld yr arddangosfa hon heddiw gan Cymorth Cristnogol. Bu blwyddyn 5 a 6 Ysgol yr Eifl draw i'w gweld ynghyd a chymryd rhan mewn gweithgaredd ar ffoaduriaid.

Pe tae chi'n gorfod ffoi ar frys o'ch cartref pa dri o'r eitemau ar y bwrdd fyddech chi yn ddewis gario gyda chi? Ar y bwrdd roedd bag, dillad, pel, bwyd, potel ddwr, tedi, lluniau'r teulu, par o esgidiau, sebon, ychydig o foddion, hynny o arian oedd yn y ty.

I Zambia bu i deuluoedd ffoi o Angola, ac roedd Florinda, sy'n 14 oed, wedi cerdded am ddau fis i gyrraedd Zambia. Taith beryglus a blinedig iawn, heb fwyd am amseroedd maith.

Mae bagiau yn medru bod yn drwm ac yn anhylaw yn enwedig mewn gwres tanbaid - mae gennych ormod o lwyth i'w gario am weddill y daith, pa un peth, allan o'r tri gwreiddiol ydych chi am ddewis i'w gario ac fydd o fudd i chi o fan hyn ymlaen?

Potel ddwr oedd y dewis gan bob grwp yn y weithgaredd heddiw.

Monday, 2 June 2008

TECWYN IFAN


Bu i'r criw sydd yn mynd i Romania drefnu noson gymdeithasol yng nghwmni TECWYN IFAN ar nos Iau 22ain Mai. Cafwyd ychydig o gefndir i'r daith a'r gwaith gan Llinos, gair am y profiad o wneud gwaith gwirfoddol dramor gan Menna Machreth, a gair hefyd gan Roberta Williams, sydd yn mynychu'r daith yn Gorffennaf eleni, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol dramor am y tro cyntaf. Mwynhawyd gweddill y noson yng nghwmni Tecwyn Ifan gan fwynhau yr hen ffefrynnau i gyd ganddo, a hefyd cael gwybod y cefndir i'r caneuon. Diolchwyd i Tecwyn Ifan ac i bawb am gefnogi gan Dafydd Roberts, sydd hefyd yn mynd i Romania.