15fed Ebrill 2018
Ymlaen a hanes Y Pasg ac Iesu yn codi o'r bedd gwag. A dyma nhw, y bedd gwag yn yr ardd gan Ieuan, Deio, Meinir a Tom. Heddiw bu i ni ddarfod ein gwaith ar gyfer cystadleuaeth yr Annibynwyr a fydd yn cael ei gyflwno yng nghystadleuaeth Cwmpan Denman. Da iawn blant a phob hwyl.
Dydy Iesu ddim yma; mae yn ol yn fyw!
Sunday, 15 April 2018
Thursday, 12 April 2018
Ysgol Sul Maesyneuadd
8fed Ebrill 2018
Gobeithio i bawb fwynhau'r egwyl dros Y Pasg a chael ambell wy Pasg blasus. Wedi cael stori'r Pasg heddiw bu'r dosbarthiadau'n brysur yn creu ar gyfer ein cywaith Cymru a Madagascar. Mae'r dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Denman Undeb yr Annibynwyr yn prysur garlamu tuag atom ac mae'r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda. Pob lwc gyda'r gystadleuaeth! Gem boblogaidd yn Madagascar ydi Bao. Mae'r plant yn ei chwarae gyda hadau, cerrig neu gregyn fel arfer - fe gawsom dro ar y gem gan ddefnyddio bagiau ffa a gweld pwy oedd y cynta i groesi'r 'stafell!

Wednesday, 21 March 2018
Ysgol Sul Maesyneuadd
18 Mawrth 2018
Tasg y Grawys wythnos diwethaf oedd casglu pensiliau, pinau ffelt, creyonau a.y.y.b ar gyfer wardiau plant Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Glanclwyd. Diolch yn fawr i bawb am gyfrannu mor hael. Dyma'r deunyddiau yn barod i fynd!

Cyfle heddiw i ddysgu beth yw Y Beibl a dysgu am y cenhadon aeth a Newyddion Da y Beibl i bobl Madagascar 200 mlynedd yn ol. Byddwn yn dysgu mwy am Apel Cymru Madagascar dros yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio cystadlu am Gwpan Denman yr Annibynwyr ym mis Ebrill gyda'r gwaith celf. Dyma fwy o luniau teuluoedd wedi cyrraedd a hefyd breichledau cyfeillgarwch y dosbarth hyn.

Tuesday, 13 March 2018
Sunday, 11 March 2018
Ysgol Sul Maesyneuadd
11 Mawrth 2018
Tasg y Grawys yr wythnos diwethaf ac yn arwain at Sul y Mamau heddiw oedd gwneud llun eich teulu. Dyma luniau ardderchog. Roedd prysurdeb mawr heddiw i baratoi anrheg i mam, a dyma farc llyfrau'r dosbarth ieuenctid a bocs siocled y plant lleiaf!

Subscribe to:
Posts (Atom)