Sunday, 11 March 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

11 Mawrth 2018
Un o dasgau'r Grawys ar gyfer yr Ysgol Sul eleni oedd casglu dillad ar gyfer Ffoaduriaid (drwy law Mantell Gwynedd).  Dyma gasgliad ardderchog o ddillad plant, ieuenctid ac oedolion wedi dod i law. Bydd y casgliad hwn ar agor hyd y Pasg, gyda chasgliadau arferol yn parhau drwy Eglwys Maesyneuadd wedi hynny. Diolch o galon i bawb am gyfrannu.


Monday, 5 March 2018

Oedfa Gwyl Dewi

4ydd Mawrth 2018 - cafwyd oedfa i ddathlu Gwyl Dewi dan ofal y Parchg Casi Jones. Derbyniwyd nifer fawr o eitemau o ddillad a tegannau ar gyfer Ffoaduriaid yn y gwasanaeth, hyn yn dilyn Tasg y Grawys 1.  Tasg y Grawys 2 oedd cofnodi'r tywydd dros yr wythnos, a dyma adroddiadau Erin, Deio, Meinir a Begw.





Sunday, 25 February 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

25 Chwefror 2018
Diolch i Anti Margaret am adrodd hanes Iesu Grist yn dysgu'r disgyblion i weddio, a chyflwyno i ni heddiw Weddi'r Arglwydd.  Llwyddwyd i roi Gweddi'r Arglwydd gyda'i gilydd yn gywir o fewn yr amser penodol.


Ysgol Sul Maesyneuadd

18 Chwefror 2018
Hanes y Mab Afradlon gawsom heddiw ac ar ol astudio'r stori, fe gafwyd cyfle i atgoffa ein hunain o'r hanes mewn ffordd greadigol. Dyma waith Meinir, Aila, Deio a Ieuan. Aila gafodd y marciau uchaf am daflu bwyd i'r moch. Da iawn chi!





Sunday, 11 February 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

11eg Chwefror 2018
Cyfrif ein bendithion un wrth un. Mae cyfnod y Grawys yn cychwyn dydd Mercher - fyddwch chi yn rhoi heibio siocled neu rhywbeth arall am 40 diwrnod, neu'n gwneud rhywbeth yn wahanol i'r arfer dros y cyfnod hwn? dyma roeddem yn drafod heddiw ac yn diolch am yr holl fendithion rydym yn eu mwynhau - lle saff i fyw, cartref clyd, cysur, iechyd, teulu a chwmni ffrindiau, tegannau a bwyd iach bob dydd.  Yn ein stori gwelodd 10 dyn Iesu yn dod i mewn i Jerusalem. "Helpa ni" meddai nhw.  Roedd Iesu yn gweld eu bod yn sal iawn ac yn dioddef o'r gwahanglwyf, ond fe ddywedodd wrthynt am fynd i weld yr offeiriad.  Ar eu ffordd at yr offeiriad, sylwodd y 10 bod y gwahanglwyf ar eu croen wedi diflannu! Roedden nhw'n iach! Trodd un yn ol ac meddai "diolch i Dduw". Trodd Iesu ato a gofyn "ble mae'r 9 arall?" Dim ond un ddaeth i ddiolch. Cofiwn bob amser ddweud DIOLCH! Dyma rai o'r Ysgol Sul yn ymarfer eu cymorth cyntaf ac yn cyfrif eu bendithion. Ond bu'r gem rhoi plastar ar y briw yn un anodd!






Sunday, 4 February 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

4ydd Chwefror 2018
Hanes Iesu yn newid bywyd dyn bach gawsom heddiw sef, Sacheus.  Roedd Sacheus wedi clywed bod Iesu ar ei ffordd i Jerico ac roedd tyrfa fawr yn ei ddisgwyl ond, yn ddyn byr a heb fawr o ffrindiau, doedd Sacheus yn methu gweld dros y dyrfa, a doedd neb am adael iddo fynd o'u blaenau!
Dringodd i ben y goeden ac yno yn eistedd yn y dirgel, galwodd Iesu arno. Roedd Iesu am gael swper gyda Sacheus y casglwr trethi tywyllodrus! Dyma pryd y newidwyd bywyd Sacheus o fod yn twyllo i fod yn ddyn da a charedig. Dyma waith Ieuan, Meinir, Aila a Deio.





Saturday, 3 February 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

28 Ionawr 2018
Mae bugail da yn adnabod ei ddefaid, mae'r defaid yn adnabod llais y bugail. Mae'r bugail yn eu gwarchod rhag mynd ar goll; yn eu bwydo a gofalu amdanyn nhw. Yn arwain y defaid i borfa dda. Dyma sut mae Iesu Grist yn disgrifio ei hun yn Ioan 10:11-18. Dyma ddefaid Roxi, Begw, Elliw a Leusa sy'n dangos sut mae Iesu Grist yn ein gwarchod.