Wednesday, 4 January 2012

CLWB GWAU


3ydd Ionawr 2012 - Blwyddyn Newydd Dda i'r holl aelodau! Croesawyd pawb i'r cyfarfod cyntaf eleni a dosbarthwyd gwlan i bawb. Bu'r clwb yn ffodus iawn i gael grant i gael gwlan. Mae nifer o eitemau yn barod i'w dosbarthu i'r Ysbytai yn cynnwys yr hetiau bychain gyda agoriad ynddyn nhw ar gyfer triniaeth i'r pen.

OEDFA GAROLAU PENTREF TREFOR






22ain Rhagfyr 2011 - cynhaliwyd Oedfa Garolau gyda lluniau o waith plant Dechrau Da!, Hwyl a Sbri a Clwb Chware Teg! Addurnwyd y Festri gyda gosodiadau Nadoligaidd gan Clwb Gosod Blodau'r pentref a chafwyd paned a mins peis i ddilyn. Gwnaed casgliad er budd Ysbyty Alderhay a chasglwyd £100.

OEDFA - Edrych yn ol ac edrych ymlaen!

1af Ionawr 2012 - cynhaliwyd oedfa ar y thema' Edrych yn ol ac edrych ymlaen' gyda phaned heno. Roedd nifer yn cymryd rhan, a chafwyd oedfa fendithiol iawn. Bydd y grwp yn cyfarfod eto nos Lun 9fed Ionawr i drefnu Oedfa - Llawenydd ar gyfer dydd Sul 15fed Ionawr.

HWYL A SBRI

21ain Rhagfyr 2011 - daeth nifer ynghyd i wylio ffilm heno a chael hwyl yn gwylio Puss 'N Boots. Cafwyd popcorn a diod lemon ar y canol!

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

19eg Rhagfyr 2011 - daeth y criw ynghyd i baratoi gwasanaeth ar gyfer dydd cynta'r flwyddyn newydd - Edrych yn ol ac edrych ymlaen!

CLWB CHWARE TEG!




15fed Rhagfyr 2011 - heno roedd yn amser i recordio'r sain ar gyfer y lluniau ar gyfer gwasanaeth Carolau Pentref Trefor a hefyd yn amser i addurno cacennau Nadolig!

BORE COFFI


15fed Rhagfyr 2011 - cynhaliwyd Bore Coffi arbennig yn Yr Hen Ysgol i lawnsio calendr 2012 ar y thema Tywydd Trefor. Daeth nifer am baned a daeth y Cambrian News i gael hanes y calendr.